Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal
Dyddiad cau 13/10/2024
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G11 £43,421 - £46,464
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn chwilio am Reolwr Tîm Cynorthwyol ar gyfer ein Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal.
Byddwch yn un o dri Rheolwr Tîm Cynorthwyol, yn adrodd i'r Rheolwr Tîm a gyda'n gilydd rydym yn dymuno i chi gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Wrecsam a'u gofalwyr. Rydym am i'n plant sy'n derbyn gofal deimlo'n ddiogel, a derbyn yr addysg orau bosibl er mwyn eu paratoi ar gyfer eu bywydau fel oedolion. Rydym yn cyflawni hyn drwy ddatblygu perthnasoedd a chefnogi eu dymuniadau a'u dyheadau, tra'n parhau i fod yn eiriolwyr ar eu cyfer ym mhob rhan o'u bywyd. Er mwyn cyrraedd yr amcanion hyn, rydym yn chwilio am rywun a all sicrhau bod ein gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn rhagori ar safonau cenedlaethol. Byddwch angen gweithio ar draws gwasanaethau, y cyngor a phartneriaid i gynnal perthnasoedd gwaith ac ymarfer ardderchog. • Cynorthwyo a chefnogi'm i arwain, rheoli a hyfforddi tîm a chefnogi'r tîm i ddiogelu
Os oes gennych ymholiadau pellach am y rôl, cysylltwch â Deborah Brandley ar 01978 295346
Gofynion ar gyfer rôl Rheolwr Tîm Cynorthwyol yw:
• Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol. Safonau Proffesiynol Addysgwr Ymarfer (Cam 1 a 2) ac/neu Hyfforddiant Arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr atebol cyntaf a/neu astudiaeth ôl-radd neu fodlonrwydd i ymgymryd â hyn. Profiad helaeth yn gweithio mewn Lleoliad Gofal Cymdeithasol Statudol gyda phlant a'u teuluoedd.
Gwiriad manylach GDG
Cofrestru â Chyngor Gofal Cymru
Mae'r swydd Rheolwr Tîm Cynorthwyol hon yn denu taliad cymhelliant recriwtio o £2,996 fel croeso i'r Cyngor.
Mae'r taliad hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae'r taliad yn destun didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill ynberthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.