Ynglwn â'r Rôl: Fel Rheolwr Tîm Galluedd Meddyliol, byddwch yn arwain tîm arbenigol sy'n gyfrifol am asesiadau Deddf Galluedd Meddyliol (MCA). Byddwch yn darparu arweiniad arbenigol, yn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, ac yn cefnogi arfer gorau ar draws yr awdurdod. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r rheolwr Tîm Rhan-amser arall.
Cyfrifoldebau Allweddol: - Arwain a goruchwylio tîm o ymarferwyr medrus
- Goruchwylio prosesau MCA a DoLS, gan sicrhau gwneud penderfyniadau amserol a chyfreithlon
- Darparu hyfforddiant ac ymgynghori i dimau mewnol.
- Cyfrannu at ddatblygu polisïau a gwella gwasanaethau
Amdanoch Chi: - Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig.
- Gwybodaeth fanwl am Ddeddf Galluedd Meddyliol a deddfwriaeth gysylltiedig
- Profiad profedig o arweinyddiaeth a rheoli tîm
- Sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a threfnu rhagorol
- Ymrwymiad i ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person ac yn seiliedig ar hawliau
Pam Ymuno â Ni? - Gweithio mewn tîm agos a chefnogol mewn cymuned wledig hardd
- Trefniadau gweithio hyblyg i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Datblygiad a hyfforddiant proffesiynol parhaus
- Cynllun pensiwn a buddion hael llywodraeth leol
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â ni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon c ysylltwch â Emma Clarke:
Emma.Clarke@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhairolauofewnein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy