Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G12 £47,420 - £50,512
Yn chwilio am her fel Swyddog Adolygu Diogelu Annibynnol? Ydych chi'n canolbwyntio ar y plentyn? Os felly, rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol brwdfrydig iawn, gyda gwybodaeth a phrofiad mewn ystod o feysydd gwaith cymdeithasol.
Yn ychwanegol, bydd angen i chi allu arwain y gwaith o gydlynu ymateb rhyngasiantaethol effeithiol.
Byddwch chi'n aelod allweddol o'r Tîm Diogelu Plant yn Wrecsam, sydd â phwyslais ar y cyd ar lywio gwell ymarfer, perfformiad a chynlluniau o ansawdd ar gyfer plant a phobl ifanc.
Byddwch yn gweithio â'n partneriaid i sicrhau ymarfer cyson sy'n unol â safonau statudol, ac yn cadeirio cyfarfodydd o fewn System Integredig ar gyfer Plant, gan gynnwys Cynadleddau Amddiffyn Plant, Cyfarfodydd Adolygu ac Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal.
Mae CBSW yn cynnig dulliau gweithio modern sy'n cynnwys cyfuniad hybrid o weithio gartref, ar safle gydag unigolion ac o gyfleusterau'r Cyngor neu rai a rennir.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Job Desc... (.doc) (129kb) , Swydd dd... (.doc) (131kb)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr