Swyddog Cefnogi Llesiant Gofalwyr
Dyddiad cau 06/12/2024
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Wyt ti am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngwynedd? Oes gen ti brofiad neu ddiddordeb ym maes gofalwyr di-dâl?
Mae llawer o bobl a phlant ar draws Gwynedd yn edrych ar ôl rhywun sy'n sâl neu'n anabl yn eu cartref, a llawer ohonynt yn gwneud hynny heb fawr o gydnabyddiaeth na chefnogaeth.
Dyma gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i'w bywydau.
Fel rhan o Dîm Llesiant y Cyngor byddi yn hyrwyddo maes gofalwyr di-dâl, clywed lleisiau gofalwyr a chydweithio i ddatblygu'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Bydd hyn yn cynnwys gweithio efo ysgolion a cholegau o ran gofalwyr ifanc, yn ogystal a mudiadau 3ydd sector staff y cyngor a'r awdurdod iechyd.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sian Griffiths ar 01286 679204 / sianwyngriffiths@gwynedd.llyw.cymru
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Cynnal cyfweliadau 19/12/2024.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 06/12/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
• Sgiliau rhyng bersonol cryf sy'n arddangos didwylledd wrth ymgysylltu gyda trigolion a gofalwyr ar wahanol faterion sydd yn ymwneud â'u llesiant.
• Creadigrwydd a'r awydd a'r hyder i gynnig syniadau
• Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
• Empathi clir at bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol
• Brwdfrydedd, egni, dyfalbarhad a'r ewyllys i ddatrys problemau.
• Hunan gymhelliant.
• Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar
• Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
• Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Y gallu i weld perthnasedd pob math o gyd weithwyr, a tynnu'r gorau allan ohonynt, wrth symbylu cydweithio mewn meysydd llesiant, iechyd meddwl a gofalwyr di-dâl.
• Diddordeb byw mewn pobol ac agwedd rhagweithiol tuag at ddarganfod datrysiadau yn ymwneud â cyfarfod anghenion grwpiau bregus.
• Parch at unigolyddiaeth ac unigrywiaeth cymunedau penodol lle y gellir adeiladu ar berthnasoedd a chryfderau y gymuned honno.
• Ymrwymiad cryf a'r gallu i symbylu eich hunain.
• Hunan hyder wrth annog cyd weithwyr o asiantaethau, mudiadau a grwpiau cymunedol,i gyd weithio yn effeithiol i amcanion clir.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol.
Dymunol
• Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGCh
• Cyfhwyster cydnabyddedig mewn rheoli prosiect
• Cymhwyster ychwanegol mewn marchnata a/neu cyfathrebu
• Cynhwyster mewn gwerthuso prosiectau
Profiad perthnasol
Hanfodol
• Profiad o weithio'n agos gyda gweithwyr rheng flaen yn unai yn y proffesiynau gofal , iechyd, addysg, sector wirfoddol neu drwy brosiect cymunedol.
• Profiad o hwyluso a gweithio gyda grwpiau yn eu annog i wneud gweithgareddau a/neu tasgau penodol.
• Profiad o ysgrifennu adroddiadau sy'n crynhoi canfyddiadau ar ôl cyfnod o werthuso.
• Profiad o ymgeisio am grantiau o amrywiol ffynonellau
Dymunol
• Profiad o gydlynnu gweithgareddau a/neu gyfarfodydd aml asiantaethol
• Profiad o weithio yn uniongyrchol gyda pobol neu/a plant boed yn y gymuned, mewn ysgol ,sefydliadau gofal, asiantaethau statudol, preifat neu wirfoddol.
• Profiad o werthuso prosiectau ar sail tystiolaeth/teclynau mesur effaith
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lefel 1 i 1, mewn grwpiau ac yn gyhoeddus mewn gweithdai
• Sgiliau cyfathrebu sy'n defnyddio cyfryngau gwahanol (cyfoes a thraddodiadol)
• Sgiliau meithrin perthnasoedd positif rhwng pobol gyda gwahanol anghenion a diddordebau.
• Sgiliau gweithio'n rhyng asiantaethol, gan allu cyd weithio a dysgu gan arbenigwyr mewn gwahanol feysydd.
• Sgiliau negodi a cyfaddawdu rhwng gwahanol bartion sy'n disgwyl pethau gwahanol gennych
• Sgiliau ymgysylltu
• Sgiliau hwyluso
• Sgiliau trefnu ardderchog sy'n sicrhau bod eraill yn glir am amserlen, amcanion a pwrpas unrhyw weithgaredd.
• Gwybodaeth am Ddeddf Gwanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2016, a'r 5 ffordd tuag at Lesiant (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
• Gwybodaeth am gasglu a thrin data meintiol ac ansoddol
Dymunol
• Adnabyddiaeth o faes gofalwyr di-dâl - boed hynny'n arbennig ofalwyr ifanc, gofalwyr plant sydd ag anghenion ychwanegol neu oedolion sy'n ofalwyr
• Gwybodaeth am y 3ydd sector, mentrau cymdeithasol a'r amrywiol ffynonellau cefnogaeth sydd ar gael i gefnogi pobl gyda' Sgiliau mewn cynhyrchu deunyddiau ar feddalwedd fel CANVA.
• Sgiliau hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo hawliau gofalwr di-dal o fewn Gwynedd
• Gweithredu fel cyswllt y Cyngor ar gyfer y maes gofalwyr di-dâl
• Cydlynu Rhwydwaith Gofalwyr di-dâl Gwynedd a chynllun gweithredu
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
• Bydd rôl y Swyddog Cefnogi Llesiant Gofalwyr Di-dâl yn rhan greiddiol o'r Uned Llesiant. Mae'r uned yn canolbwyntio ar waith ataliol o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ac yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill y Cyngor ar faterion llesiant. Bydd y swyddog yn:
• Cydweithio gyda phrosiectau ataliol eraill yr Uned Llesiant - sef Cynllun Dementia Gwynedd âr Gwasanaeth Dementia Actif, Gwynedd Oed Gyfeillgar, yn ogystal â chynlluniau ataliol eraill o fewn yr Adran Busnes a Chomisiynu, yr Adran Plant a Theuluoedd a'r Adran Oedolion Iechyd a Llesiant.
• Datblygu a hyrwyddo maes gofalwyr di-dâl yn benodol, gan ddilyn canllawiau'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys maes gofalwyr ifanc, rhieni ofalwyr i blant anabl, ac oedolion sy'n ofalwyr.
• Gweithredu fel pwynt cyswllt canolog i faterion yn ymwneud â gofalwyr yn y Cyngor, gan gydweithio'n agos â swyddogion eraill yr uned a'r Arweinydd Llesiant i hyrwyddo hawliau a buddiannau gofalwyr di-dâl i gyd-fynd a'r Ddeddf (uchod) .
• Codi proffil gofalwyr o fewn y Cyngor a'i gwneud yn bwnc sydd yn derbyn sylw corfforaethol gan gyd weithio gyda Cefnogaeth Gorfforaethol i ystyried a hyrwyddo hawliau staff y Cyngor sy' Gweithio gyda chyd weithwyr yn rhanbarthol a chenedlaethol ar y maes a chyfrannu at ffrydiau gwaith sy'n mynd i wella ansawdd bywyd i ofalwyr .
• Cydlynnu a chyfrannu at Rwydwaith Gofalwyr Gwynedd, neu fforwm tebyg i hon i'r dyfodol, gan gyfrannu at gyd-gynhyrchu Cynllun Gweithredu, cefnogi i adnabod a gweithredu ar faterion, ac adolygu effeithlonrwydd y Cynllun, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ganolog i'r rhwydwaith yma.
• Meithrin perthynas adeiladol rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a mudiadau 3ydd sector perthnasol ym maes gofalwyr.
• Cyd-gynhyrchu strategaeth gofalwyr gan gydweithio gyda'r Arweinydd Llesiant i gynhyrchu dogfen weithredol a'i adolygu yn ôl cyfeiriad polisi cenedlaethol ac yn seiliedig ar Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru.
• Cydweithio gyda Swyddog Gwybodaeth ac Ymgysylltu'r Uned Llesiant i ymgynghori ac ymgysylltu gyda gofalwyr di-dâl (gan gynnwys gofalwyr ifanc a rhieni ofalwyr), yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau yn rheolaidd, er mwyn gwrando a deall materion sydd yn bwysig iddynt.
• Casglu a dadansoddi data am ofalwyr ar gyfer y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Casglu gwybodaeth feintiol ac ansoddol am ansawdd y gwasanaeth mae gofalwyr yn eu derbyn yn lleol.
• Cydweithio i godi proffil ac ymwybyddiaeth o faterion Gofalwyr Ifanc drwy weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd, nyrsys ysgol a swyddogion lles, yn ogystal â mudiadau 3ydd sector, a chydlynu hyfforddiant priodol i'r gweithluoedd perthnasol.
• Cydweithio gyda mudiadau 3ydd sector ac adrannau'r Cyngor i hyrwyddo cerdyn adnabod ac Ap Aidi i ofalwyr ifanc, a chydweithio i ddatblygu cerdyn pellach ar gyfer oedolion sy'r Uned Llesiant i gynhyrchu unrhyw ddeunyddiau gwybodaeth ar gyfer Gofalwyr yn ôl y galw.
• Sicrhau cyswllt rheolaidd gyda'r timau gwasanaeth perthnasol yn yr Adran Plant a Theuluoedd a'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, er mwyn rhannu gwybodaeth a chael adborth cyson ynglŷn ag anghenion ein dinasyddion o safbwynt y maes gofalwyr.
• Cydweithio gyda'r Uned Chomisiynu a Chontractau er mwyn uchafu deilliannau ar gyfer gofalwyr trwy'r drefn comisiynu.
• Amlygu bylchau mewn gwasanaeth i reolwyr yn rheolaidd ynghyd â chyd-gynhyrchu ffyrdd creadigol o gwrdd âr gofyn yma. Mae hyn yn cynnwys chwilio am ffynonellau ariannol gwahanol a gwneud ceisiadau am grant.
• Gwneud cysylltiadau gyda chymunedau Gwynedd i ddatblygu gwasanaethau o gwmpas anghenion defnyddwyr gwasanaethau llesiant a'u gofalwyr. Bydd yn gweithio'n agos gyda Hybiau Cymunedol, mudiadau a grwpiau 3ydd sector, mentrau cymdeithasol a'r sector breifat a chyhoeddus i ystyried sut y gallwn gyd-gynhyrchu atebion lleol i gwrdd ag anghenion.
• Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddi ac ymwybyddiaeth flynyddol ar y cyd gydag Uned Datblygu'r Gweithlu a chyd weithwyr lleol a rhanbarthol ar gyfer staff y Cyngor a phartneriaid eraill. Bod yn barod i hwyluso gweithdai ymgynghorol a datblygol gyda defnyddwyr a chyd weithwyr.
• Cyfrannu at Asesiad Anghenion Poblogaeth yr Adran Blant a Theuluoedd a'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor
• Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
• Gall fod amseroedd pryd y bydd yn rhaid gweithio rhai gyda'r nosau a penwythnosau.

Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.