Oherwydd datblygiad yr adran, rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Cynnal a Chadw Adeiladau yng Nghyngor Sir Penfro. Bydd ymuno â'n tîm yn rhoi cyfle gwych i chi am ddatblygiad proffesiynol ac i gael profiad gwerthfawr o fewn y diwydiant adeiladu a'r sector cynnal a chadw.
Mae'r adran cynnal a chadw adeiladau yn ddarparwr gwasanaeth helaeth, prysur ac amrywiol. Mae'n cynnwys tîm gweithredol amlddisgyblaethol o fewn y gyfarwyddiaeth tai a gofal cymdeithasol, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw, gwasanaethu, adnewyddu a gwella ystod eang o asedau ac eiddo amrywiol, gan gynnwys tai cyngor, ysgolion, adeiladau cyhoeddus, ac asedau hanesyddol a diddorol eraill.
Rydym am benodi Swyddog Cynnal a Chadw Ardal llawn amser a pharhaol. Byddwn nid yn unig yn rhoi cefnogaeth lawn i'ch galluogi i berchnogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl, ond, yn ogystal, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa gyda ni.
Rydym yn annog ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf llawn ar gyfer y swydd ar hyn o bryd i ymgeisio gan ein bod yn creu llwybrau gyrfa a bydd cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad pellach o fewn yr adran wrth symud ymlaen i gyflawni ein nodau ni a'ch nodau chi.Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi weithio gydag ystod eang o adeiladau ac asedau ac ymuno â thîm gwych fel aelod gwerthfawr. Byddwch yn mwynhau'r profiad o weithio ledled Sir Benfro. Yn ogystal â'r amgylchedd syfrdanol, yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, bydd gennych fynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol â buddion wedi'u diffinio, gwyliau blynyddol hael (26 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 31 ar ôl pum mlynedd o wasanaeth) sy'n cynyddu gyda gwasanaeth), gwyliau banc, cynllun prynu gwyliau blynyddol, tâl salwch galwedigaethol (yn dibynnu ar hyd gwasanaeth), a threfniadau gweithio hyblyg a doethach.
Dilynwch y ddolen isod:
https://visitpembrokeshire.com/cy-gb
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda thîm amlddisgyblaethol o dan arweiniad Rheolwr Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau a Rheolwr Rhaglen Cynnal a Chadw Adeiladau i ddarparu a rheoli ystod amrywiol ac eang o brosiectau adeiladu, adnewyddu a chynnal a chadw cyffrous o'r dechrau i'r diwedd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r swydd hon, neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, anfonwch neges e-bost yn y lle cyntaf gyda'r teitl/testun YMHOLIAD SWYDD WAG yn y teitl, at rhys.jones@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.