Amdanoch chi:Gyda'ch gallu profedig i ddilyn prosesau, rydych yn weinyddwr hyderus sy'n ymdrechu bob amser i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Rydych yn weinyddwr medrus.
- Rydych yn wych am gyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd ac yn gwybod pryd a sut i ofyn am gymorth neu uwchgyfeirio materion
- Rydych yn mwynhau'r her o ddarparu'r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid, gan sicrhau gwelliant parhaus
- Rydych yn gwerthfawrogi prosesau a dulliau gweithio sy'n sicrhau bod y systemau cywir yn cael eu gosod i gynorthwyo pobl, gan ddeall yr angen i'w hadolygu.
- Bydd eich dull trefnus o wneud y gwaith yn cefnogi cydweithwyr yn y tîm gosod i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol
Buddion: - Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol.
- Byddwch yn cael goruchwyliaeth reolaidd gan eich Rheolwr Tîm
- Mynediad at hyfforddiant drwy raglenni hyfforddi Gofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddi corfforaethol, yn ychwanegol at hyfforddiant allanol lle bo hynny'n briodol a byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog i ddysgu gyda ni.
- Bod yn rhan o sefydliad sy'n sicrhau arferion gweithio diogel a llawn cefnogaeth, drwy bolisïau gweithwyr cadarn.
- Mynediad at nifer o fuddion gweithwyr, gan gynnwys Buddion Conwy, a Ffit Conwy.
- Gweithio mewn gofod swyddfa pwrpasol, sy'n agos at nifer o siopau, lleoedd bwyd o safon a choffi da!
Siaradwch â ni:Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Lindsay Duncalf, Rheolwr Tîm am sgwrs fer, neu ewch ati rŵan i lenwi'r ffurflen gais.
E-bost: Lindsay.Duncalf@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577813
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lindsay Duncalf Rheolwr Tîm 01492 577813 Lindsay.duncalf@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar swydd hon.
Rydym yn annog ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas sy'n fodlon ymrwymo i wella eu sgiliau Cymraeg hyd at y safon ofynnol o fewn cyfnod penodol.
Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.