Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dyma gyfle datblygu gwych i ymuno ag Uned y Dirprwy ar gyfer secondiad 12 mis gyda'r bwriad o'i gwneud yn swydd barhaol yn dilyn adolygiad.
Mae Uned y Dirprwy yn darparu rhan hanfodol o'r broses o ddarparu gwasanaeth i gleientiaid nad ydynt yn gallu rheoli eu materion ariannol eu hunain, gan weithio tuag at amcanion cyffredinol Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac o fewn canllawiau Arfer Gorau y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Byddwch yn gweithredu ar ran y Penodai/Dirprwy a enwir ar gyfer cleientiaid gan sicrhau eu bod yn derbyn eu hawl llawn i fudd-daliadau a bod cyfrifon addas yn cael eu gweithredu a lefelau cynilo yn cael eu monitro'n effeithiol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Rheolwr y Dirprwy ac yn cyflenwi yn ôl yr angen.
Bydd gennych chi radd berthnasol neu ddisgyblaeth gyfatebol, y gallu i weithio o fewn canllawiau ariannol a gweithdrefnau archwilio, profiad o hawlio budd-daliadau ar ran eraill ac o gydgysylltu gyda chredydwyr, dyledwyr ac asiantaethau allanol eraill.
Hefyd ystyrir yn hanfodol y gallu i amsugno newidiadau deddfwriaethol a gweithredu'r addasiadau o ganlyniad i arferion gweithio, gan gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau eraill o staff.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg yn hanfodol ac yn y Gymraeg yn ddymunol.
O ganlyniad i natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Debbie Howorth, Rheolwr y Dirprwy (01492 575683/ debbie.howorth@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr