Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Llys Elian
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn sydd yn byw gyda Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym yn dymuno penodi unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i weithio am gyfnod penodol hyd Medi 2026 yn ein cartref preswyl.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol.
Fel Uwch Gymhorthydd Gofal bydd gofyn i chi sicrhau bod y gefnogaeth o'r safon uchaf ac yn cydymffurfio â'r holl reoliadau, a sicrhau bod safonau'n cael eu cyflawni drwy gefnogi staff gofal a rheolaeth.
Bydd gofyn i chi drefnu, monitro a goruchwylio staff rheng flaen. Rydym ni'n chwilio am rywun arloesol o ran darparu gwasanaethau cefnogi i bobl â dementia gan y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person.
Eich gwaith fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion ar bob agwedd o dasgau bywyd ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, a diddordebau a sgiliau bywyd.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith yn dennu tâl uwch fesul awr. Mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl or unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i gynnal a gwella lles unigolion - rhoi gwybod i rheolwyr am unrhyw bryderon. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae'r gallu i ysgrifennu'n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Meinir Roberts, Rheolwr, 01492577773 Meinir.roberts@conwy,gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr