Uwch Weithiwr Cymdeithasol
Dyddiad cau 27/03/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Parhaol
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sharon Wyn Burville ar 01286 679099
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH AR Y 27/03/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Uwch Weithiwr Cymdeithasol tîm Oedolion_min_0.8.pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ac ar ben ei hun.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy'n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Meddu ar sgiliau negodi cryf
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy'n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau plant a theuluoedd .
Meddyliwr creadigol a chyfathrebwr effeithiol gyda'r gallu i ysbrydoli'r gweithlu
Diddordeb a Gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol ac awydd i ddysgu eraill
Gonestrwydd, pendantrwydd a hyblygrwydd
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith
Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol
Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
DYMUNOL
Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP
Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)
Cymhwyster Rheoli neu yn ymrwymo i gwblhau o fewn 3 blynedd
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill yn effeithiol
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o wneud gwaith llys
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a'u gofalwyr.
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith Cymdeithasol
Profiad o reoli risgiau ac arddangos barn broffesiynol gadarn
DYMUNOL
Profiad o gyfrannu i gynlluniau /prosiectau
Profiad o oruchwylio staff
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas .
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion
sy'n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)
Sgiliau mentora gweithwyr ar amryw o feysydd gwahanol
Sgiliau cyflwyno a chadeirio
Sgiliau negodi da
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
• Asesu anghenion oedolion a'u gofalwyr yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i'w galluogi i gwrdd ag amcanion personol.
• Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth.
• Darparu gwybodaeth ynglŷn â'r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion i fyw mor annibynnol â phosib a gwella eu hansawdd bywyd i'r eithaf.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a'r cyfrifoldebau statudol
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid - Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
• Offer - Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau Cyffredinol
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a'r canllawiau perthnasol sy'n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu'r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cynghori aelodau'r tîm ar feysydd gwaith arbenigol.
• Goruchwylio nifer cyfyngedig o aelodau tîm yn unol â'r disgwyliadau yn y polisi goruchwylio a'r polisïau adnoddau dynol. Nodi cryfderau a meysydd datblygiadol ar gyfer staff trwy oruchwylio a gwerthuso parhaus. Defnyddio sgiliau datblygu a rheoli yn effeithiol i ddatblygu perfformiad staff yn barhaus.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml-sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth. Cynrychioli'r awdurdod lleol mewn cyfarfodydd perthnasol.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl oruchwylio.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl oruchwylio.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl oruchwylio.
• Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau trwy'r rôl oruchwylio.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa trwy'r rôl oruchwylio.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl oruchwylio.
• Cynnal asesiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' i nodi beth sy'n bwysig i'r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n hwyluso gofal a chymorth.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl oruchwylio.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy'n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl oruchwylio.
• Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai
profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl oruchwylio.
• Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a chreu amgylchedd o barch a chydweithio. Rhoi cyfeiriad ac adborth i staff trwy rannu'r weledigaeth yn effeithiol.
• Rheoli defnydd effeithlon o adnoddau gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth staff.
• Dyrannu gwaith yn briodol. Ystyried brys a blaenoriaethu mewn modd amserol.
• Cyfrannu at ac arwain ar brosiectau yn lleol ac yn rhanbarthol.
• Cyfrannu at yr agenda cynllunio'r Gweithlu trwy gydlynu'r broses lleoli myfyrwyr blynyddol o fewn y tîm.
Dyletswyddau Lleol
• Dyletswydd IAA
• Asesu gallu meddyliol dinesydd yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol
• Trefnu lleoliadau Preswyl/ Nyrsio/Ysbaid
• Cefnogi ceisiadau am Dai Gofal Ychwanegol
• Trefnu a Mynychu adolygiadau preswyl/Nyrsio
• Egluro polisïau codi tal am wasanaethau y Cyngor
• Bod yn ymwybodol o'r drefn comisiynu ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion a chyfrannu at ei siapio fel bo angen.
• Cyfrannu at Achosion Llys/Adroddiadau i'r crwner
• Gwaith ar gyfer ymateb i'r drefn cwynion
• Gwaith yn ymwneud a BIPBC - rhyddhau o'r ysbyty, achosion CHC
• Diweddaru a sicrhau glendid data
• Mynychu a cyfrannu mewn cyfarfodydd Diogelu
• Cefnogi Myfyrwyr ar leoliad
• Mynychu a cyfrannu mewn cyfarfodydd Adlewyrchol y Tîm
• Dirprwyo dros yr Ymarferydd Arweiniol neu Arweinydd Ardal yn unol â'r angen
• Disgwyliad i weithio tu hwnt i ffiniau'r ardal waith yn achlysurol
Dyletswyddau Eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.

Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.