GWASANAETH: DIOGELU, SICRWYDD ANSAWDD A IECHYD MEDDWL
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Ypres Clark ar 01766 772 599
Cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 13/12/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion.pdf
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd cadarnhaol tuag at unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau, plant, theuluoedd a chydweithwyr Meddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i greu perthynas a ddelio â phobl mewn modd sensitif a chwrtais. Hyblyg, dibynadwy ac yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ac yn unol a chyfarwyddyd y Rheolwr Tim Arddangos ymrwymiad a brwdfrydedd mewn perthynas a chyflawni deilliannau Meddu ar y gallu i flaenoriaethu a chwblhau tasgau gan gwrdd â therfynau amser penodol. Ymrwymiad i werthoedd, egwyddorion, nôd ac amcanion y Gwasanaethau Cymdeithasol a chod ymarfer proffesiynol. Dealltwriaeth o ymarfer gwrth ormesol. Gallu bod yn greadigol wrth weithio efo ungolion, plant a theuluoedd Gallu weithio dan bwysau
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon addysg dda i lefel TGAU neu uwch i gynnwys Cymraeg a Saesneg. Cymhwyster lefel 3/4 addas mewn asesu neu gymhwyster uwch/cyffelyb mewn gofal/gwaith plant. Y cymhwyster cyfredol derbyniol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yw 'Tystysgrif AU y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K101/102 & KZW113). Rhaid felly bod yn fodlon ac yn meddu'r gallu i gyflawni'r cymhwyster fel amod o dderbyn y swydd oni bai eich bod yn ei feddu (neu gymhwyster uwch perthnasol) yn barod. Yn meddu ar gymhwyster neu yn cytuno i gwblhau hyfforddiant lefel 3 & 4 'Trusted Assessor' ar gyfer asesu am offer ac addasiadau bach a canolig fel amod o dderbyn y swydd (Oedolion)
DYMUNOL
Cymhwyster TG
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio o fewn y sector gofal oedolion neu plant a phobl ifanc (swydd plant/oedolion) a dealltwriaeth o'r gwasanaethau cymdeithasol statudol. Profiad o ddelio'n effeithiol a phositif gyda'r cyhoedd ac asiantaethau tu allan i'r Cyngor.
DYMUNOL -
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i wrando, trafod ac adnabod gwybodaeth / problemau yn ystyrlon gydag unigolion sydd efallai mewn sefyllfaoedd o argyfwng. Gallu i ddadansoddi gwybodaeth ac ymateb mewn modd priodol gan ddilyn protocolau a dull gweithredu'r gwasanaeth. Sgiliau cyfrifiadurol - yn gallu defnyddio systemau Microsoft Word ac Outlook. Gallu i weithredu gan sicrhau diogelwch data a chyfrinachedd. Gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag anableddau, afiechydon a chyflyrau cronig mwyaf cyffredin (e.e. strôc) neu datblygiad plentyn (swydd plant/oedolion) Gwybodaeth ynglŷn â chefnogaeth sydd ar gael o fewn y gymuned i helpu pobl parhau i fwy mor annibynnol â phosib e.e. cefnogaeth i ofalwyr neu berson hŷn bregus sydd newydd adael yr ysbyty neu 3ydd sector cefnogaeth yn y maes plant Trwydded yrru gyfredol lân Gallu paratoi adroddiadau eglur a cywir yn Gymraeg a Saesneg Profiad a dealltwriaeth o weithio o fewn ddeddfwriaeth yn ymwneud a gofal cymdeithasol.
DYMUNOL
Gallu i gwblhau asesiadau gofal cymdeithasol cychwynnol a chofnodi gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. • Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw. • Asesu anghenion oedolion a'u gofalwyr yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill. • Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i'w galluogi i gwrdd ag amcanion personol. • Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth. • Darparu gwybodaeth ynglŷn â'r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion i fyw mor annibynnol â phosib a gwella eu hansawdd bywyd i'r eithaf. • Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a'r cyfrifoldebau statudol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid - Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth. • Offer - Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau Cyffredinol • Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a'r canllawiau perthnasol sy'n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru • Gweithredu'r cod ymarfer proffesiynol • Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. • Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig neu therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau) a cheisio cyngor a chefnogaeth ar feysydd gwaith y tu hwnt i ffiniau gwaith disgwyliedig. • Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano a gweithio o fewn ffiniau'r rôl. • Cydweithio â chydweithwyr amlddisgyblaethol dan arweiniad eich rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig • Paratoi a chyflwynoadroddiadau a chofnodion o dan oruchwyliaeth y rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. • Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau. • Grymuso pobl i gael llais a'u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eirioli. • phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill. • Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig. • Cynnal asesiad sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' i nodi beth sy'n bwysig i'r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol. • Paratoi, cynhyrchu a gweithredu cynlluniau dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig/therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau). • Nodi Oedolyn neu Blentyn sy'n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac adrodd yn briodol. • Ymgymryd â'r cymhwyster lefel 4 perthnasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau GCC a rhaglenni lefel 3 a 4 eraill yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau Lleol
• Dyletswydd IAA • Cefnogi ceisiadau am Dai • Egluro polisïau codi tal am wasanaethau y Cyngor • Gwaith ar gyfer ymateb i'r drefn cwynion (os oes cwyn ynglŷn ag un o'i achosion) • Gwaith yn ymwneud a BIPBC - rhyddhau o'r ysbyty (dim GIP) • Diweddaru a sicrhau glendid data • Mynychu a cyfrannu mewn cyfarfodydd Diogelu (os yn berthnasol i achos) • Mynychu a cyfrannu mewn cyfarfodydd Adlewyrchol y Tîm • Disgwyliad i weithio tu hwnt i ffiniau'r ardal waith yn achlysurol
Dyletswyddau erail
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor. • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb. • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor. • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd. • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin • Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen. • Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr