Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

16 Tachwedd 2020

Wythnos Gofalwn Cymru 2020

Bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

O heddiw, 16 Tachwedd, byddwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yng Nghymru.

Bydd gweithwyr gofal yn rhannu eu profiadau o sut y dechreuon nhw eu gyrfa mewn gofal, sut brofiad yw gweithio mewn gwahanol rolau a’r hyn maen nhw’n ei fwynhau fwyaf am weithio mewn gofal. Darganfyddwch am ddigwyddiadau gyrfa a llawer mwy.

Dilynwch y gweithgareddau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn ystod yr wythnos a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael ar stepen eich drws – #WythnosGofalwn

Gallwch ein dilyn ar InstagramFacebook a Trydar.

Ffair yrfaoedd rithwir gogledd Cymru

Ymunwch â ni ddydd Gwener 20 Tachwedd, rhwng 10 am-12pm, ar gyfer ein ffair yrfaoedd rithwir yng ngogledd Cymru.

Bydd cyflogwyr sy’n recriwtio ledled gogledd Cymru yn postio eu swyddi gwag byw ac yn rhannu manylion ar sut i wneud cais.

Byddwn yn rhannu adnoddau defnyddiol i’ch ysbrydoli i ddechrau neu newid eich taith yrfa yn llwyr.

Recriwtio ar sair gwerthoedd

Yma, rydyn ni’n dysgu am sut mae Cyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu dull mwy rhyngweithiol o recriwtio pobl sydd â’r gwerthoedd cywir…

Welsh word cloud about values. Casgliad o eiriau am werthoedd.
Porthol swyddi Gofalwn Cymru

Ydych chi’n chwilio am swyddi gwag mewn gofal?

Chwiliwch ein porthol swyddi a gwnewch gais am rolau yn eich ardal chi nawr.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.