Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

01 Medi 2021

Wythnos Gofalwn Cymru 2021

11-17 Hydref 2021


Rhwng 11-17 Hydref, bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael, byddwn yn cynnal digwyddiadau i gefnogi ceiswyr gwaith, gweithwyr a chyflogwyr ledled Cymru.

Cystadleuaeth Plant Gofalwn

Logo-Plant-Gofalwn-WeCare-Children

Mis Medi, rydym yn lansio cystadleuaeth newydd ar Instagram i ddod o hyd i’r timau gofal plant, darparwyr chwarae a gwarchodwyr plant sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn ar gyfer plant yn eu gofal.

Byddwn yn gofyn i’r cyhoedd enwebu tîm gofal plant, darparwr chwarae neu warchodwr plant y maent yn teimlo sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu hymdrechion.

I enwebu darparwr, bydd angen:

  • postio delwedd o’u henwebai ar Instagram
  • rhannu pam eu bod yn eu henwebu
  • tagio @gofalwncymrucares gan ddefnyddio hashnodau’r gystadleuaeth #PlantGofalwn

Bydd ein panel yn dewis chwe ymgeisydd i fynd ymlaen i’r rownd derfynol a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus yn ystod Wythnos Gofalwn Cymru, 11-17 Hydref 2021.

Digwyddiad dechrau gyrfa mewn gofal

Dechreuwch eich gyrfa mewn gofal
Dydd Mawrth 12 Hydref
10-11am

Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i ddysgu am fyd gofal a’r cyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi.

Chloe Paterson - Daytime support worker

Yn y digwyddiad hwn byddwn yn:

  • cyflwyno chi i fyd gofal
  • Llysgennad Gofalwn Cymru yn rhannu ei stori am sut beth yw gweithio mewn gofal
  • rhannu pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi
  • rhannu adnoddau sydd gan Gofalwn Cymru i’ch helpu chi.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn trwy Eventbrite:
www.Eventbrite.co.uk/e/166686556979

Gweminar Porthol Cyflogwyr

Gweminar Porthol Cyflogwyr
Dydd Iau 14 Hydref
11.30am-12pm

Mae Porthol Swyddi Gofalwn Cymru yn safle canolog rhad ac am ddim lle gallwch hysbysebu swyddi gofal yn hawdd ac yn gylfym.

Yn y weminar hon byddwch yn dysgu sut i:

  • sefydlu proffil
  • postio swydd
  • golygu, dyblygu a rhannu eich swyddi gwag
  • cael mynediad at eich pecyn cymorth rhanddeiliaid.

Ers lansio’r porthol swyddi llynedd, mae miloedd o swyddi gofal wedi eu rhannu, sy’n golygu ei fod yn safle i geiswyr gwaith sy’n chwilio am waith mewn gofal yng Nghymru. Rydym yn gobeithio bod y porthol cyflogwyr newydd yn eich helpu i reoli eich swyddi gwag yn fwy effeithlon.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn trwy Eventbrite:
https://www.eventbrite.co.uk/e/165148281957

Dilynwch ni ar InstagramFacebook a Thrydar i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Wythnos Gofalwn Cymru #WythnosGofalwnCymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.