Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

17 Tachwedd 2020

Wythnos Gofalwn Cymru: Diwrnod dau - Gofal Cartref

Mae gwasanaethau gofal cartref yn darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cymorth yn cael ei drefnu ar sail anghenion a rwtîn pobl i’w helpu i aros yn eu cartref mewn ffordd ddiogel gyda chefnogaeth.

Yma, rydyn ni’n rhannu straeon gan rhai o’r bobl arbennig sy’n gweithio ym maes gofal cartref ledled Cymru.

Jade, Gweithiwr Gofal yn ISS Healthcare

Dechreuodd Jade, 22 oed, ar ei thaith i ofal gydag ISS Healthcare yn ôl ym mis Mai 2017. Fe’i sefydlwyd yn 2001, ac mae ISS Healthcare yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i gannoedd o bobl sy’n byw ledled rhanbarth De Cymru.

Jade, Care Worker

Ar hyn o bryd mae Jade yn gofalu am Shaun, oedolyn bregus 27 oed sydd wedi symud yn ôl adref yn ddiweddar ar ôl lleoliad preswyl tair blynedd. Mae’n dioddef o barlys yr ymennydd cwadriplegig, anawsterau dysgu ac epilepsi.

I ddechrau, roedd byw gartref yn cyflwyno rhai heriau i Shaun, a arweiniodd at Jade i orfod cwblhau hyfforddiant arbenigol i helpu Shaun i reoli ei epilepsi a’i nam ar ei olwg yn ddiogel gartref. Yn yr amser y mae Jade wedi gofalu am Shaun, maen nhw wedi magu bond go iawn.

“Rydyn ni’n dau yn ein hugeiniau, felly mae’n gwmws fel ein bod ni’n ffrindiau,” meddai Jade. “Gydag ychydig o gefnogaeth, mae Shaun yn gallu cwrdd â’i ffrindiau, mynychu dosbarthiadau coginio a chyngherddau – yr holl bethau mae pobl ein hoedran yn mwynhau eu gwneud. Mae’n hyfryd sgwrsio ag ef am y pethau hyn a rhannu diddordebau. “

Mae yna lawer o rannau gwerth chweil o swydd Jade, ond un o’r ffactorau mwyaf buddiol iddi yw sut mae hi’n gallu cefnogi mam Shaun a’i galluogi i barhau â’i gwaith fel athrawes. “Mae’n wych oherwydd mae’n golygu ei bod hi’n gallu dysgu a gwneud yr hyn mae hi’n ei garu bob dydd, tra hefyd yn hyderus bod Shaun yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arno,” esboniodd Jade. “Mae’n anhygoel gwybod fy mod i, yn ogystal â chefnogi Shaun, yn gallu chwarae rhan fach wrth ei helpu hi hefyd.”

Lisa, Goruchwiliwr Gofal Cartref yn Support@Home

Ar ôl gweithio yn Support@Home am 21 mlynedd, mae Lisa wedi adeiladu gyrfa wirioneddol ystyrlon mewn gofal. Dechreuodd Lisa fel Gweithiwr Gofal Cartref a daliodd nifer o rolau o fewn y cwmni cyn dod yn Oruchwyliwr Gofal Cartref. Fel rhan o’i swydd, mae’n rheoli 21 o ofalwyr sy’n gweithio ar draws y gymuned, gan ymweld â phobl yn eu cartrefi.

“I ddechrau, yr oriau hyblyg a ddenodd fi i ymgeisio am rôl mewn gofal gan fod gen i deulu ifanc i ofalu amdanynt,” dywedodd Lisa wrthym. “Fodd bynnag, unwaith i mi ddechrau gweithio gyda’r unigolion yn eu cartrefi, roeddwn i wedi gwirioni. Mae’n deimlad mor anhygoel gwybod eich bod chi’n un o’r rhesymau bod unigolyn yn gallu aros yn ei gartref. ”

Gan adlewyrchu ar ei gyrfa mewn gofal, a’r hyn sydd wedi’i gwneud mor llwyddiannus, dywedodd Lisa, “Rwy’n credu bod angen i chi gael cymeriad penodol i fod yn weithiwr gofal. Mae angen i chi allu cydymdeimlo ag unigolion wrth aros yn broffesiynol. Os ydych chi’n gallu gwneud hynny, byddwch chi wrth eich bodd â phob eiliad ohono.”

Jayne, Gweithiwr Gofal Cartref gyda chynllun Bridgestart

Mae Jayne yn Weithiwr Gofal Cartref ac mae’n rhan o gynllun Bridgestart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n galluogi pobl i gael y lefel gywir o ofal i aros yn ddiogel yn y cartref y maent am aros ynddo…

Lynne, Goruchwiliwr yn Lougher Home Care

Ar ôl gweithio fel goruchwyliwr yn Lougher Home Care am chwe blynedd, mae parch mawr i Lynne yng nghymuned Gwent, a does fawr o syndod gan fod ei stori’n dangos sut mae hi’n mynd yr ail filltir yn ei swydd.

Lynne, Supervisor

Ar hyn o bryd mae Lynne yn gofalu am ddynes o’r enw Yvonne. Yn ddiweddar, aeth merch Yvonne yn sâl iawn yn yr Alban, ac er gwaethaf ei hofn am hedfan, penderfynodd Lynne y byddai’n hebrwng Yvonne ar y daith awyren i’r Alban er mwyn sicrhau bod ganddi’r gefnogaeth yr oedd ei hangen arni. Dywedodd wrthym, “wnaeth yr ofn ddim hyd yn oed groesi fy meddwl. Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi fynd â Yvonne er mwyn iddi weld ei merch am y tro olaf. A chyn gynted ag y gwelais wên Yvonne pan welsom ei merch, roedd y cyfan werth chweil.”

Mae Lynne hefyd yn cefnogi gŵr o’r enw David yn wirfoddol. I ddechrau, roedd hi wedi gofalu am wraig David yn ei rôl fel gweithiwr gofal. Mae hi bellach yn cefnogi David gyda’i siopa wythnosol ac yn sicrhau ei fod yn mynychu apwyntiadau pwysig. Dywed David, “Mae Lynne wedi cadw mewn cysylltiad â mi ers colli fy ngwraig Barbara. Rwyf wrth fy modd yn ei gweld hi’n taro heibio yn gwisgo ei thop melyn. Mae’n garedig bob amser ac mae’n fy helpu gyda fy siopa o wirfodd ei chalon.”

Gwasanaethau Gofal Cartref

Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae gofal cartref yn dod yn hanfodol i bobl ledled Cymru. Ond beth yw gofal cartref yn union a pham ei fod mor bwysig?

Rydym yn trafod beth yw gofal cartref ac yn rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i ddarparwr yn eich ardal chi. Rydym hefyd wedi rhoi cipolwg ar waith yn y maes, ac wedi cynnwys rhai dolenni i’ch helpu chi i ddod o hyd i swyddi gofal cartref.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.