Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

18 Tachwedd 2020

Wythnos Gofalwn Cymru: Diwrnod tri - Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae nifer o leoliadau gwahanol ble gallwch weithio yn y blynyddoedd cynnar yn ogystal â gofal cymdeithasol i blant.

Yma, rydyn ni’n rhannu straeon gan rai o’r bobl anhygoel sy’n gweithio gyda phlant ledled Cymru.

Lisa, Prif Swyddog Camau Cyntaf

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i gymaint o bobl, ac yn arbennig felly i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant. Mae cymaint o wasanaethau gofal plant wedi mynd yr ail filltir trwy gydol y pandemig, gan gynnwys y staff yn Camau Cyntaf, sefydliad gofal plant dielw, a weithiodd yn ddiflino ochr yn ochr â chyngor RhCT i ddarparu gofal brys i weithwyr allweddol a’r rhai oedd ei angen fwyaf yn ystod y cyfnod clo.

Mae Lisa Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Camau Cyntaf, yn myfyrio ar gamau cynnar y pandemig a sut roeddent yn cefnogi staff. “Yn ddealladwy, un o’r pryderon mwyaf i staff oedd meddwl am ddal y firws a’i drosglwyddo i’w teuluoedd,” esboniodd. “Felly gwnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i liniaru’r risg honno a lliniaru’r pryderon hynny. O gadw staff yn rhan o drafodaethau diogelu am PPE ac asesiadau risg i sicrhau eu bod yn cael gwybod am unrhyw newidiadau polisi a gweithdrefn, sicrhau diogelwch a thawelwch meddwl oedd ein blaenoriaeth.”

Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff am ganllawiau a hyfforddiant perthnasol, roedd Camau Cyntaf yn ei gwneud hi’n flaenoriaeth i wirio llesiant staff yn rheolaidd. “Roedd yr uwch dîm yn cynnig lefelau uchel o gefnogaeth, arweiniad ac yn diweddaru staff ym mhob datblygiad,” esboniodd Lisa. “Fe wnaethant wahodd yr holl staff i ymuno â grŵp trafod iechyd a diogelwch COVID-19 lle rhannwyd pryderon, goresgynnwyd problemau, a chynigiwyd atebion. Mae hyn wedi bod yn rhan annatod i ni greu amgylchedd gwaith gwell a mwy cadarnhaol.”

Er mwyn ymdopi â’r holl newidiadau, dewisodd Camau Cyntaf leihau nifer y gwaith papur i staff ei gwblhau ac yn hytrach canolbwyntio ar sicrhau bod staff yn cael yr amser i ymgysylltu’n llwyr â phlant a’u teuluoedd. Roeddent yn darparu galwadau fideo rheolaidd i rieni ac yn cael plant i gymryd rhan yn yr arferion dyddiol newydd fel gwiriadau tymheredd ar y drysau a golchi dwylo wrth gyrraedd. Dywed Lisa wrthym, “chwaraeodd pob aelod o staff ran allweddol wrth helpu plant i oresgyn yr hyn a ddylai fod wedi bod yn amser brawychus a rhyfedd iddynt, yn enwedig i’r plant hynny nad oeddent erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Ni ellir rhoi cymhelliant ein gweithlu mewn geiriau.”

Yn ogystal â darparu gofal i blant gweithwyr allweddol, roedd Camau Cyntaf hefyd yn cefnogi teuluoedd eraill wrth iddynt fynd i’r afael ag addysg gartref. Er nad oeddent erioed wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol o’r blaen, roedd staff yn gyflym yn cyfarwyddo. Roedd rhieni’n cael eu diweddaru ac yn cael cyfleoedd i gyfathrebu â meithrinfeydd trwy dudalennau preifat ar Facebook. Ar y tudalennau hyn, gallai rhieni hefyd gyrchu gweithgareddau ar-lein, gemau a fideos adrodd straeon fel ffordd o gadw mewn cysylltiad. Daeth cyfryngau cymdeithasol yn adnodd pwysig ac yn achubiaeth i lawer o deuluoedd. Daeth staff hyd yn oed o hyd i ffordd i rieni fwynhau’r foment arbennig o raddio meithrin trwy uwchlwytho deunyddiau i blant wneud eu hetiau graddio eu hunain a chyflwyno lluniau ar gyfer llyfr graddio digidol. I grynhoi, dywedodd Lisa, “mae aelodau ein tîm yn arwyr heb glogynnau. Maent wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr heb gyfaddawdu ar brofiadau chwarae plant, y cyfan wrth sicrhau y glynir wrth y protocolau glanhau a diogelwch cadarn.”

Rachael, Rheolwr Meithrinfa ym Meithrinfa Bright Start Day

Fel Gofalwr Maeth Therapiwtig, mae’n amlwg bod Rachael yn berson naturiol ofalgar. Ond ar ben hyn, mae hi hefyd wedi treulio 30 mlynedd o’i bywyd yn gweithio ym Meithrinfa Bright Start Day yng Ngholeg Sir Benfro, lle mae hi bellach yn gweithio fel Rheolwr Meithrinfa.

Fy ngwaith i yw sicrhau bod y feithrinfa’n rhedeg yn llyfn o ddydd i ddydd, o gyflwyno rhieni a phlant pan fyddant yn dechrau, i reoli iechyd a llesiant staff,”esboniodd Rachael. “Dwi wedi cael addysg hyd at lefel gradd mewn Astudiaethau Plentyndod ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio tuag at fy Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Rheolaeth). Gan fod hon yn rhaglen ddysgu yn y gwaith yn ein meithrinfa, mae wedi rhoi amser i mi fyfyrio ac adolygu ein harfer, sydd wedi bod yn ysbrydoledig.”

Mae yna lawer y mae Rachael yn ei garu am ei swydd ac mae dewis un uchafbwynt yn unig yn dasg anodd. “Dwi’n angerddol iawn am y feithrinfa a fy rôl ynddo,” meddai. “Rwy’n teimlo ei fod wedi fy helpu i dyfu fel person ac i ddeall sefyllfaoedd pobl eraill. Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda’r plant, y rhieni a’r tîm, ond dwi’n mwynhau cefnogi myfyrwyr ar leoliad yn arbennig. Mae gweithio gyda’r myfyrwyr yn golygu fy mod i’n gallu rhannu fy mhrofiad, yn ogystal â rhoi cyfle iddyn nhw gael eu profiadau uniongyrchol amhrisiadwy eu hunain mewn meithrinfa brysur. Mae’n bleser gweld eu hymatebion wrth iddyn nhw fod yn dyst i egni a dewrder plant ifanc – ac i helpu i lunio cenhedlaeth newydd o weithwyr meithrin.”

Gan adlewyrchu ar ei gyrfa, dywed Rachael, “Hyd yn oed ar ôl deng mlynedd ar hugain yn y proffesiwn, gallaf ddweud yn wirioneddol fy mod yn caru fy swydd. Gwylio’r plant yn tyfu a datblygu wrth iddynt archwilio a chofleidio heriau newydd yw’r hyn sy’n fy ngyrru. Dyma beth sy’n fy ysbrydoli i ddal i symud ymlaen yn yr amgylchedd cyfnewidiol hwn.”

Cindy, Arweinydd Chwarae yng Nghylch Chwarae Arbenigol Snap

Mae Cylch Chwarae Arbenigol Snap yn elusen gofrestredig sy’n derbyn cyllid craidd gan fentrau Llywodraeth Cymru, sef Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Cyfeirir plant ag anghenion ychwanegol at y gwasanaeth i dderbyn therapi ‘Ymyrraeth Gynnar Trwy Chwarae’ a ddarperir gan staff cymorth arbenigol. Cindy yw’r Arweinydd Chwarae yno ac mae wedi rheoli’r gwasanaeth er 2003.

“Rydw i wedi gweithio ym maes gofal plant ers blynyddoedd, ac rydw i wedi cwblhau nifer o gyrsiau ac wedi ennill cymwysterau amrywiol dros y blynyddoedd, gan gynnwys BSc mewn Astudiaethau Plentyndod, y bûm yn gweithio tuag atynt yn ystod fy nghyfnod yma yn Snap,” esboniodd Cindy. “Mae’r holl staff yma bob amser yn gweithio tuag at gymwysterau a thystysgrifau newydd. O sgiliau diogelu, cyfathrebu a chymdeithasol, i gwricwlwm synhwyraidd ac iechyd a diogelwch – mae’r rhestr o sgiliau sydd gennym yma yn ddiddiwedd. “

Gan fod Snap yn darparu gwasanaeth unigryw ar draws iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, gall fod yn rôl heriol. “Mae’r swydd yn dod gyda’i heriau, ond mae pob aelod o staff yn Snap yn ymateb i’r heriau hyn bob dydd oherwydd eu hangerdd a’u hymroddiad i wneud gwahaniaeth i fywydau plant,” meddai Cindy. “Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod yn gallu cefnogi’r plant a’u teuluoedd, ond dwi hefyd yn teimlo mor ffodus i reoli tîm mor wych.”

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac addysg, ond mae Cindy a’i thîm wedi parhau i fynd yr ail filltir wrth ddal i wenu. “Ar ddechrau’r pandemig, bu’n rhaid i lawer o leoliadau gofal plant gau, ond fe wnaethom aros ar agor gyda staff yn darparu ein sesiynau gwerthfawr i rieni a phlant ar-lein,” mae Cindy yn cofio. “I mi, amlygodd hyn effaith ein gwaith, nid yn unig ar y plant, ond ar lesiant y rhieni hefyd. Dangosodd bwysigrwydd ein rôl fel ymarferwyr i gefnogi’r teuluoedd hyn trwy gyfnod arbennig o heriol. A dyna’r teimlad mwyaf rhyfeddol a gwerth chweil. ”

Sandra, Gofalwr Maeth ac enillydd Gwobr Gofalwn Cymru

Mae Sandra a’i gŵr wedi bod yn ofalwyr maeth ers 2001. Fel y prif ofalwr, mae Sandra yn wynebu heriau bob dydd wrth iddi wneud yn siŵr ei bod hi’n diwallu anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, mynd i apwyntiadau meddygol a chyfarfodydd, yn ogystal â chefnogi a hybu cyswllt â’i theulu biolegol…

Andrew, Gweithiwr Cymorth Gofal

Mae Andrew yn Weithiwr Cymorth Gofal ymroddedig, greddfol sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywydau pob plentyn a theulu y mae’n eu cefnogi. Mae Andrew yn addasu ei ymagwedd at bob plentyn, yn defnyddio offer cyfathrebu i ddeall eu meddyliau, dymuniadau, teimladau a dewisiadau…

Kate, Gweithiwr Cymorth Preswyl

Mae Kate yn Weithiwr Cymorth Preswyl ac yn gweithio hefo ei phlentyn allweddol i feithrin hyder. Mae hi wedi’i gweddnewid yn berson ifanc cryf, annibynnol a hyderus. O’r diwrnod cyntaf, mae Kate wedi bod yn ffigwr allweddol a chyson iddi, a’i model rôl/gwarcheidwad pwysicaf…

Peter, Gweithiwr Gofal Plant Preswyl

Mae Peter yn Weithiwr Gofal Plant Preswyl. Yma, mae Peter yn rhannu ei yrfa mewn gofal hyd yn hyn a sut yr ymunodd â’r sector…

Yma, mae Peter yn sôn am sut i ddod yn Weithiwr Gofal Plant Preswyl …


Yma, clywn gan Peter pam y dylai pobl ystyried gweithio yn y maes Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant…

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.