Wythnos Gofalwn Cymru
Gan ddechrau ar ddydd Llun 9 Medi tan ddydd Sul 15 Medi, bydd yn Wythnos Gofalwn Cymru.
Bydd yr wythnos hon yn canolbwyntio ar gysylltu â phobl ifanc i’w helpu i ddeall y cyfleoedd posibl i weithio ym maes gofal yn eu hardal.
Bob dydd o’r wythnos bydd rhanbarth gwahanol o bob cwr o Gymru yn arddangos y gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud i recriwtio gweithwyr newydd i ofal.
Bydd hyn yn cynnwys straeon diwrnod ym mywyd gan staff, digwyddiadau gyrfa, gweithgareddau diwrnod allan llawn hwyl a llawer mwy. Dilynwch y gweithgareddau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn ystod yr wythnos hon ac i ddysgu mwy am y cyfleoedd eich carreg ddrws.
Edrychwch allan am eich ardal yn ystod yr wythnos:
Dydd Llun 9 Medi – Cwm Taf Morgannwg
Dydd Mawrth 10 Medi – Gorllewin Cymru
Dydd Mercher 11 Medi – Powys
Dydd Iau 12 Medi – Gogledd Cymru
Dydd Gwener 13 Medi – Caerdydd a Bro Morgannwg
Dydd Sadwrn 14 Medi – Gwent
Dydd Sul 15 Medi – Gorllewin Morgannwg
Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #WythnosGofalwn