fbpx
Skip to main content

Y Gymraeg ym maes gofal


Trwy wella sgiliau a gwybodaeth iaith Gymraeg y gweithlu, a’i ddealltwriaeth o ddwyieithrwydd, bydd modd helpu i ddarparu gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Dyma rai o fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith:

  • dileu’r perygl o ynysu unigolion trwy fethu â darparu gwasanaethau yn eu dewis iaith
  • osgoi cwynion posibl i Gomisiynydd y Gymraeg am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol
  • bodloni safonau cydraddoldeb trwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg
  • asesu anghenion unigol trwy gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth yn eu dewis iaith
  • hyrwyddo enw da eich sefydliad trwy ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?

Ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol, gallai hynny effeithio ar urddas a pharch pobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pedwar grŵp blaenoriaeth y mae’r Gymraeg yn bwysig iawn iddynt:

  • plant
  • pobl hŷn
  • pobl ag anableddau dysgu
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r grwpiau blaenoriaeth hyn yn agored iawn i niwed os nad ydyn nhw’n derbyn gofal yn eu dewis iaith. Mae rhai o’r rhesymau hyn wedi’u nodi isod:

Gweithio gyda phlant

Mae Helen yn Arweinydd Meithrin yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl, ac mae’n teimlo’n angerddol am addysgu’r genhedlaeth nesaf trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweithio gyda phobl hŷn a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl

Mae Keneuoe yn dod o Lesotho yn wreiddiol. Symudodd i’r Bala ym 1997 a dechreuodd weithio i Gyngor Gwynedd. Yma, manteisiodd Keneuoe ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac erbyn 2000 roedd hi’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hyrwyddo hawliau pobl, canolbwyntio ar unigolion a’r hyn sy’n bwysig iddynt yn rhan bwysig o waith Keneuoe. Trwy gyfathrebu â thrigolion yn eu dewis iaith, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a’u cefnogi, gan eu helpu i gynnal eu llesiant.
Mae Gillian yn oruchwylydd gofal yn y gymuned sy’n helpu staff i ofalu am bobl agored i niwed yn lleol. Yn y fideo hwn mae hi’n trafod pwysigrwydd y Gymraeg yn ei gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae gallu defnyddio eu hiaith eu hunain yn debygol o fod yn hanfodol i’w gofal.

Adnoddau hyfforddi i’ch helpu

Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein di-dâl ar gyfer dechreuwyr, ac mae wedi’i deilwra i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal.

Mae Sgiliaith (Grŵp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arferion da, hyfforddiant staff ac adnoddau, er mwyn gwella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau fel bod myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn gallu astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cynllun Iaith Gwaith  a’r bathodyn swigen oren yn dangos bod unigolyn yn gallu siarad Cymraeg.

Apiau ar gyfer dysgu

Dyma rai Apiau Cymraeg cyffrous ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.

Mentrau Iaith

Mentrau Iaith Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi gwaith 22 o Fentrau Iaith lleol ledled Cymru.

Mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.

Hyfforddiant

Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant Cymraeg. Mae’n cynnig ystod eang o hyfforddiant ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.

Bwletin rhithiol ar gyfer adnoddau Cymraeg

Mae hysbysfwrdd rhithiol Cymraeg ar Padlet.com yn cynnwys adnoddau ar gyfer hyfforddiant, dysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer mwy i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

Adnoddau addysgol

OpenLearn Wales: The home of bilingual, free learning in Wales – adnodd ar gyfer pobl sydd am wybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru gan gyflwyno casgliad o adnoddau addysgol di-dâl sy’n berthnasol i Gymru.

Mae gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, waeth a ydym yn siarad Cymraeg ai beidio.

Blaenorol Yn ôl i newyddion Nesaf