Y rhai a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023
24 July 2023
Dysgwch fwy am y wobr sy’n dathlu’r rhai sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg a phleidleisiwch am yr enillydd
Beth yw’r wobr Gofalu trwyr’r Gymraeg?
Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r wobr yn cydnabod rhai sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.
Gallwn gael unrhyw lefel o Gymraeg – rhugl, rhywfaint neu ddysgwr. Y peth pwysig yw eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith gyda’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Pleidleisiwch am enillydd gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023
Eleni mae pum gweithiwr o bob rhan o’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wedi’u dewis i gyrraedd rownd derfynol gwobr Gofalu yn y Gymraeg – a hoffem ni gael eich help i ddewis yr enillydd.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am ein pum cystadleuydd ysbrydoledig ac yna pleidleisiwch dros yr enillydd.
Mae’r pleidlais yn cau am 5pm ar 31 Gorffennaf 2023.
Y rhai a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023
Nikki Taylor, Ymarferydd Cyn Oed Ysgol, Cyn-ysgol Rydal Penrhos, Conwy
Cafodd Nikki ei henwebu gan ei rheolwr, Lucy Davies, sy’n Ddirprwy Bennaeth Cyn-ysgol Rydal Penrhos.
Er nad yw’n dod o gefndir Cymraeg, mae Nikki wedi gwneud ymdrech enfawr i ddysgu Cymraeg er mwyn helpu’r plant yn y cyn-ysgol lle mae’n gweithio i wella eu Cymraeg. Mae Nikki yn deall pwysigrwydd siarad Cymraeg a Saesneg o oedran cynnar, felly mae hi a’r plant yn ymarfer Cymraeg gyda’i gilydd i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r iaith.
Bob wythnos, mae yna ddosbarth sgwrsio Cymraeg yn y cyn-ysgol, ac mae athro sy’n siarad Cymraeg yn dweud bod brwdfrydedd a chyfraniad Nikki yn y dosbarthiadau hyn wedi helpu i wella Cymraeg y disgyblion yn gyflym.
Mae Nikki hefyd yn annog ei chydweithwyr i siarad Cymraeg, ac mae wedi dangos i’w chydweithwyr nad oes rhaid i chi fod yn berffaith wrth siarad Cymraeg, ond mae’n rhaid i chi roi cynnig arni ac ymarfer pan allwch chi. O ganlyniad, mae staff bellach yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Cymraeg.
Gan nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ystyried bellach fel un Saesneg yn unig, mae nifer y teuluoedd Cymraeg sy’n anfon eu plant i’r cyn-ysgol yn cynyddu. Mae
Cyn-ysgol Rydal Penrhos hefyd yn gweithio tuag at wobr efydd Addewid Cymraeg Cwlwm, sy’n cael ei dyfarnu ar ôl adeiladu sylfeini a gweithredu’r Gymraeg mewn lleoliad a’r Cynnig Cymraeg.
Dywedodd Lucy fod “brwdfrydedd a chariad amlwg Nikki at ddysgu Cymraeg yn sail i’r newidiadau positif” yn y cyn-ysgol, a’i fod yn “bleser enwebu rhywun sydd wedi cael cymaint o effaith bositif ar fywydau eraill. Da iawn Nikki!”
Ffion Hughes, Gweithiwr Cymdeithasol yn Young Lives vs Cancer, Caerdydd
Menna Evans, Gweithiwr Cymorth yng Nghartref Preswyl Min y Môr, Ceredigion
Cafodd Menna ei henwebu gan ei chydweithwraig, Nerys Lewis, Rheolwraig Gorfforaethol Porth Gofal, Cyngor Sir Ceredigion.
Fel arfer, mae Menna yn gweithio yng ngwasanaeth anableddau dysgu Ceredigion, ond ers y pandemig Covid mae hi wedi bod yn gyswllt allweddol i deuluoedd yng Nghartref Preswyl Min y Môr, drwy sicrhau bod ymweliadau â’r cartref yn cael eu cynnal yn ddiogel.
Ar frig y pandemig, sylweddolodd Menna fod rhai preswylwyr, yn enwedig y rheini a oedd yn siarad Cymraeg, yn ei chael hi’n anodd rhyngweithio â’u teuluoedd. Felly cyflwynodd Menna weithgareddau i helpu, fel darllen y papurau bro yn uchel, adrodd barddoniaeth Gymraeg a helpu un ferch i chwarae a chanu caneuon Cymraeg gyda’i mam.
Yn ogystal, cyflwynodd Menna ‘Llyfrau Atgofion Oes’ ar gyfer pob preswylydd yn eu dewis iaith, i helpu teuluoedd a gofalwyr ysgogi emosiynau gyda’r preswylydd wrth iddyn nhw ddwyn eu hatgofion i gof.
Mae’r llyfrau hyn wedi cael effaith bositif ar breswylwyr a’u teuluoedd. Disgrifiodd un aelod o’r teulu y llyfrau atgofion fel “a blessing during the Covid lockdown as it awoke Aunty’s memories and helped to bring her comfort during a difficult time for everyone.”
A dywedodd un preswylydd: “I love creating my memory book. It’s wonderful to have pleasant memories and an opportunity to document them.”
Ross Dingle, Rheolwr ac Arweinydd Chwarae Clwb Carco Limited, Caerdydd
Cafodd Ross ei enwebu gan Jane O’Toole, Prif Weithredwraig Clybiau Plant Cymru.
Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Ross wedi datblygu ansawdd chwarae ac ethos Clwb Carco, sy’n rhedeg saith clwb gofal plant cyfrwng Cymraeg y tu allan i oriau ysgol yn ne Cymru.
Mae Ross wedi dod o hyd i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaethau Chwarae Caerdydd i gynnal sesiynau chwarae Cymraeg ar gyfer dros 80 o blant bob dydd, i helpu i gefnogi llesiant, gwytnwch ac adferiad y plant. Daw nifer o’r plant o gartrefi
di-Gymraeg ac mae’r sesiynau chwarae hyn yn cefnogi ac yn annog y plant i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r diwrnod ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol.
Yr haf hwn, bydd Ross yn rhedeg y Pentref Plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnig cyfleoedd chwarae Cymraeg i blant sy’n mynychu’r ŵyl gelfyddydol flynyddol.
Siaradwr Cymraeg ail iaith yw Ross sy’n gweithio’n rhan amser fel tiwtor i fentora ac adeiladu gweithlu gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.
Mae Ross yn mynychu diwrnodau gyrfaoedd i ddisgyblion chweched dosbarth i’w hannog i ystyried gyrfa mewn gwaith chwarae. Mae hefyd yn mentora ac yn annog myfyrwyr o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg i hyfforddi fel gweithwyr chwarae. Drwy gynnig lleoliadau yn y clybiau, mae’n eu cefnogi i fod y genhedlaeth nesaf o weithwyr chwarae sy’n siarad Cymraeg.
Jenny Thomas, Gweithiwr Cymorth yn Nhyddyn Môn, elusen sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn Ynys Môn
Cafodd Jenny ei henwebu gan Yasmin Moore, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith yn Busnes@ Grŵp Llandrillo Menai.
Daw Jenny o’r Alban ac mae’n dysgu Cymraeg. Ers symud i ogledd Cymru a dechrau dysgu’r iaith, mae Jenny wastad wedi bod yn rhagweithiol wrth wella ei sgiliau Cymraeg.
Mae Jenny yn defnyddio’r Gymraeg a ddysgodd yn y gwaith i gyfathrebu’n well â’r preswylwyr y mae hi’n darparu gofal a chymorth ar eu cyfer. Mae Jenny yn aml yn cyfarch preswylwyr yn Gymraeg ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar eu cyfer y gellir eu deall drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Jenny yn gynhwysol yn ei gwaith ac yn defnyddio ei sgiliau gwrando gweithredol i ymateb i’r sgyrsiau amrywiol y mae’n eu cael yn Gymraeg gyda’r preswylwyr y mae hi’n darparu gofal a chymorth ar eu cyfer. Mae hi hefyd yn grymuso’r preswylwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg lle bo’n bosib.
Dywedodd Yasmin fod Jenny “wastad yn hybu’r Gymraeg” a’i fod yn “braf gweld pa mor ymroddedig yw hi i ddysgu’r iaith a’i haddasu i’w gwaith”.
Cafodd Jenny ei disgrifio gan Yasmin fel “dysgwr a gweithiwr brwdfrydig, penderfynol a rhyfeddol sy’n grymuso eraill i ddysgu a siarad Cymraeg yn ei gweithle. Da iawn chdi Jenny”.
Cyhoeddi’r enillydd
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym Mhen Llŷn rhwng hanner dydd a 12.45pm ddydd Iau, 10 Awst 2023.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei darlledu’n fyw ar YouTube gan yr Eisteddfod Genedlaethol.