Amdanom ni
Beth yw Gofalwn Cymru?
Mae Gofalwn Cymru yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn ni'n helpu pobl gyda'r gwerthoedd iawn ddod o hyd i rolau lle gallant dyfu, gwneud gwahaniaeth ac adeiladu gyrfa i fod yn falch ohono.
Sut rydyn ni'n gwneud hyn
- Rydyn ni'n ysbrydoli: rydyn ni'n rhannu straeon go iawn a chynnal ymgyrchoedd cenedlaethol er mwyn annog pobl i weithio mewn gofal.
- Rydyn ni'n cefnogi: rydyn ni'n darparu hyfforddiant, gwybodaeth ac adnoddau am ddim.
- Rydyn ni'n cydweithredu: rydyn ni'n gweithio gyda chyflogwyr, partneriaid a Llywodraeth Cymru i helpu adeiladu dyfodol gofal yng Nghymru.
Eich taith i ofal cymdeithasol
O fewn gofal cymdeithasol, gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gydag oedolion a phlant. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, byddwch helpu pobl i fyw bywydau mwy cyfforddus. Byddwch yn gwella iechyd yr unigolyn trwy gymorth corfforol, emosiynol a chymdeithasol. A byddwch yn helpu pobl i ddatblygu neu gynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a'u parch.
Eich taith i ofal plant
Mae bod yn rhan o ddatblygiad plentyn, ei weld wrth chwarae a'i helpu i archwilio'r byd yn waith gwerth chweil. P'un a ydych am arwain tîm neu weithio i chi'ch hun gartref, mae rôl i chi.