Prentisiaethau
Mae prentisiaid yn cael eu talu, fel gweithwyr eraill. Bydd y cyflog yn dibynnu ar bethau fel oed, profiad, sgiliau a'u gallu.
Pam fod prentisiaethau'n bwysig?
Mae'r cymwysterau prentisiaeth yn gymysgedd o ddysgu a phrofiad gwaith, a sgiliau cyfathrebu a rhifedd.
Mae prentisiaeth yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i'w chwblhau.
Mae prentisiaethau yn addas ar gyfer pob oed. Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gallai prentisiaeth fod yn lle da i ddechrau.
- Mae prentisiaethau yn creu cyfleoedd i bobl gael profiad mewn rôl. Bydd y cyflogwr yn cefnogi prentis i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud y swydd. Fe fyddan nhw hefyd yn rhoi hyfforddiant ynghyd â darparwr dysgu.
- Mae'n ffordd wych o helpu i ennill y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.
- Mae prentisiaethau’n ddechrau gwych wrth adeiladu gyrfa ym maes gofal.
Straeon gan brentisiaid
Dyma rhai o fanteision dod yn brentis:
- Cewch eich cyflogi o'r diwrnod cyntaf gyda thâl a gwyliau â thâl
- Byddwch yn ennill cymhwyster cenedlaethol sy'n cael ei ariannu'n llawn ac sy'n gallu arwain at ddatblygu gyrfa
- Cewch gefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau wrth weithio
- I'r rhai sy'n newydd i weithio ym maes gofal, mae'n cynnig cyfle gwych i ddeall y patrwm gweithio, dysgu cymryd cyfrifoldeb a deall yr amgylchedd gwaith.
Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi gwag ar gyfer prentisiaethau presennol gyda:
Recriwtio prentisiaid i'r sector gofal?
Darganfyddwch fwy am pam y dylech gynnig rhaglen brentisiaeth yn eich sefydliad.