Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd gwefan Gofalwn Cymru all-lein dros dro ar ddydd Llun 27 Ionawr i wneud diweddariadau hanfodol

Gwirfoddoli

Os nad ydych erioed wedi gweithio mewn gofal o'r blaen ac eisiau blas ar sut brofiad ydyw, mae gwirfoddoli yn lle gwych i ddechrau!

Volunteer and user of care and support skiing down a dry slope.

Beth yw gwirfoddoli?

 Mae gwirfoddoli yn weithgaredd di-dâl lle rydych chi'n rhoi eich amser i wneud gwahaniaeth.  

 Gall fod i unrhyw un. P'un a ydych wedi ymddeol, eisiau dysgu sgiliau newydd neu os hoffech roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned. Trwy wirfoddoli byddwch yn ennill:

  • sgiliau gwerthfawr  
  • ymdeimlad o gymuned  
  • profiad gwaith   
  • hyder 
  • cysylltiadau newydd. 

Fel gwirfoddolwr, mae angen i chi fod yn:  

  • hyblyg - ond hefyd yn gwneud iddo weithio o'ch cwmpas  
  • onest   
  • ymddiriedadwy   
  • parchus. 

Rhaglen gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol

Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl sy’n byw yng Nghymru sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y sector gofal cymdeithasol. Cynhelir y sesiwn hyfforddi hon ar-lein ar 29 Ionawr 2025 am 9:30am - 2:00pm.

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut mae gwirfoddolwyr yn cefnogi ein cymunedau.

Gwirfoddoli Cymru

Dechreuwch eich taith gyda Gwirfoddoli Cymru. Mae'n llwyfan un stop sy'n cynnal 700 o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws Gymru. Gyda ogwmpas 80 o sefydliadau sydd wedi hunan-ddosbarthu fel iechyd a gofal cymdeithasol.

Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sydd eisiau gwirfoddoli a hefyd i sefydliadau sydd am ddatblygu gwirfoddoli neu recriwtio gwirfoddolwyr yng Nghymru.