Mae'r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer www.gofalwn.cymru ac yn cael ei ddarparu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn rheoli preifatrwydd ei ddefnyddwyr sy'n dewis ei ddefnyddio.
Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn egluro sut mae’r wefan hon yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd ar gyfer gwefannau’r sector cyhoeddus.
Cynnwys y dudalen
- Statws cydymffurfio
- Cynnwys anhygyrch
- Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
- Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
- Gweithdrefn orfodi
- Adborth a gwybodaeth gyswllt
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wecare.wales. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan a’n cymwysiadau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Corffoedd y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Strwythur gweledol yn unig:
Nid yw’r cynnwys yn y disgrifiadau swyddi bob amser yn gwbl hygyrch. Gan fod hwn yn cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr neu wedi’i gasglu o wefannau awdurdodau lleol eraill, nid ydym yn gallu datrys y mater hwn.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn edrych ar ffyrdd o wella cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr drwy ychwanegu bariau offer, ond ni fydd hyn yn cynnwys swyddi sydd wedi’u casglu o wefannau awdurdodau lleol.
Rydym yn defnyddio offer fel SiteImprove ac axe DevTools yn rheolaidd i adolygu ac atgyweirio unrhyw faterion hygyrchedd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn gyntaf ar 15 Mai 2023 yn dilyn archwiliad hygyrchedd llawn o’r wefan gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol, ac fe’i cyflwynwyd i Gofalwn Cymru.
Roedd yr adroddiad yn nodi materion hygyrchedd gyda’r wefan, a gafodd eu datrys ym mis Ionawr 2024 gan sefydliad annibynnol.
Paratowyd y datganiad gan ddefnyddio’r offer hygyrchedd yn SiteImprove a’r adroddiad gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Mae SiteImprove yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd i fonitro hygyrchedd y wefan ac i nodi unrhyw faterion.
Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol ac yn cael ei addasu yn unol â hynny.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os hoffech chi gysylltu â ni i roi unrhyw adborth, i rhoi gwybod i ni am unrhyw fethiannau cydymffurfio, neu os hoffech dderbyn ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu yn cyswllt@gofalwn.cymru
Cynnwys cysylltiedig
Dyma ganllaw i'r nodweddion hygyrchedd ar ein gwefan.
Dyma restr fanwl o’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan.
Os oes gennych gwestiwn, sylwadau neu adborth am ein gwefan, anfonwch neges atom.