Neidio i'r prif gynnwys

Polisi Preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer www.gofalwn.cymru ac yn cael ei ddarparu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn rheoli preifatrwydd ei ddefnyddwyr sy'n dewis ei ddefnyddio.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn ar gyfer www.gofalwn.cymru ac yn cael ei ddarparu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn rheoli preifatrwydd ei ddefnyddwyr sy'n dewis ei ddefnyddio.

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, ein cenhadaeth yw meithrin hyder ymhlith y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gan arwain a chefnogi gwelliant parhaus ar draws y sector yng Nghymru.

Fel rhan o’r genhadaeth hon, fe wnaethom lansio Gofalwn Cymru yn 2019 i helpu i ddenu, recriwtio a chadw pobl yn y sector gofal. Trwy’r ymgyrch hon, rydym yn tynnu sylw at yr ystod eang o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael - gan rannu straeon go iawn gan weithwyr gofal i ysbrydoli a hysbysu eraill.

Cynnwys tudalennau

  • Ein cyfrifoldeb i ddiogelu eich data
  • Yr wybodaeth rydym ni’n ei chasglu
  • Eich hawliau chi
  • Gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu
  • Delweddau, fideos a straeon defnyddwyr
  • Porth Swyddi Gofalwn Cymru
  • Y rheini sy’n mynychu digwyddiadau a rhwydweithiau rhanddeiliaid
  • Ymwelwyr â’n swyddfeydd
  • Pobl sy’n gwneud cwyn am Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Ymholiadau cyffredinol
  • Data am y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer ymchwil
  • Ymholiadau am lywodraethu gwybodaeth
  • Ymwelwyr â’n gwefan a’r ffordd mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn defnyddio cwcis
  • Gweithgaredd a gomisiynwyd

Ein cyfrifoldeb i ddiogelu eich data

Rydym wedi cofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am y canlynol:

  • Penderfynu pa wybodaeth y byddwn yn ei gadw amdanoch;
  • Rhoi gwybod i chi am y data personol rydym ni’n ei gasglu amdanoch chi;
  • Dweud wrthych o ble rydym yn casglu eich data personol, os nad gennych chi yn uniongyrchol;
  • Dweud wrthych sut rydym yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol;
  • Darparu manylion am sail gyfreithiol prosesu eich data; a
  • Dweud wrthych a yw’n debygol y bydd adegau pan fyddwn yn rhannu eich data ag asiantaethau eraill neu drydydd partïon.

Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

Yr wybodaeth rydym ni’n ei chasglu

Mae’r math o wybodaeth rydym yn ei chasglu a sut rydym yn ei defnyddio wedi’i nodi isod. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn cael ei darparu’n uniongyrchol gennych chi. Ar adegau eraill gall cyflogwyr, hyfforddwyr ac asiantaethau eraill ei ddarparu. Dim ond yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i gyflawni ein swyddogaethau a / neu i ddarparu gwasanaethau i chi y byddwn yn ei chasglu a’i chadw.

Mae nifer o seiliau cyfreithiol y gallwn ddibynnu arnynt i gasglu a phrosesu data personol. Mae’r rhain yn cael eu disgrifio’n fwy manwl isod.

Mae’r cyfiawnhad cyfreithiol rydym yn dibynnu arno i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn cynnwys:

  • Rhwymedigaeth gyfreithiol – mae hyn yn berthnasol pan fydd angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Budd cyhoeddus – fel corff cyhoeddus, rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol lle bo angen i gyflawni tasgau sydd er budd y cyhoedd neu i gyflawni ein swyddogaethau swyddogol.
  • Buddiannau hanfodol – rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth i ddiogelu eich buddiannau hanfodol chi neu fuddiannau hanfodol unigolyn arall.
  • Cydsyniad – efallai y bydd angen eich caniatâd arnom o bryd i’w gilydd i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mewn achosion o’r fath, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl a’i addasu drwy gysylltu â ni (gweler isod) neu reoli eich dewisiadau yn eich cyfrif Gofalwn os oes gennych chi un.
  • Contract – mae hyn yn berthnasol pan fydd gennym gontract gyda chi a bod angen i ni brosesu eich data personol at ddibenion y contract. Mae hefyd yn berthnasol pan fydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi.
  • Buddiannau dilys - yn ogystal, mae gennym hawl i brosesu eich data personol lle mae gennym ni, neu drydydd parti, fuddiant dilys dros wneud hynny. Dim ond pan fyddwn ni’n fodlon bod eich hawliau preifatrwydd yn cael eu diogelu’n foddhaol y byddwn ni’n gwneud hyn. Mae gennych chi hawl i wrthwynebu unrhyw brosesu ar eich gwybodaeth bersonol o ganlyniad i’r sail gyfreithiol hon.

Eich hawliau chi

Dewis peidio â rhoi gwybodaeth bersonol

Os byddwch yn dewis peidio â rhoi data personol penodol i ni, dylech fod yn ymwybodol efallai na fyddwn yn gallu cynnig rhai gwasanaethau penodol i chi. Er enghraifft, ni allwn gynnig cyfleoedd hyfforddi i chi nac ychwanegu eich swyddi gwag at ein porth swyddi.

Cyrchu eich data

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data personol sydd gennym amdanoch drwy wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (SAR). Anfonwch eich cais at FOI@SocialCare.Wales. Byddwch yn cael ymateb gennym cyn pen 30 diwrnod calendr ar ôl i ni dderbyn eich cais. Bydd angen i ni gadarnhau eich hunaniaeth cyn i ni brosesu eich cais. Os oes angen cymorth arnoch i wneud SAR, cysylltwch â’r blwch post Rhyddid Gwybodaeth a byddwn yn cysylltu â chi i gynnig cymorth.

Ni chodir tâl am wneud cais, oni bai eich bod am gael copi ychwanegol o’r wybodaeth neu fod eich ceisiadau’n ormodol.

Dylech fod yn ymwybodol, mewn rhai achosion, nad oes rhaid i ni ddarparu copi o’r data oherwydd bod eithriad yn berthnasol. Gallai hyn fod:

  • oherwydd bod y data hefyd yn ddata personol unigolyn arall, ac ni fyddai’n rhesymol ei ddatgelu i chi heb ei ganiatâd;
  • oherwydd byddai datgelu’r data yn niweidio ein swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft drwy ei gwneud yn anodd i ni gynnal ymchwiliad addasrwydd i ymarfer teg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Gynllun Cyhoeddi Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rheoli'r ffordd rydym yn defnyddio eich data

Mae gennych rai hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddiwygio, ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydym yn ei ddefnyddio. I arfer yr hawliau hyn, anfonwch neges e-bost at Kate Salter, ein Swyddog Diogelu Data, yn FOI@socialcare.wales.

Dylech fod yn ymwybodol bod eithriadau i’r hawliau hyn. Er enghraifft, nid oes rhaid i ni ddileu gwybodaeth os ydym yn ei defnyddio ar gyfer ein swyddogaethau statudol a bod gennym sail ddilys dros barhau i ddefnyddio’r data.

Os ydych chi’n credu bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni adolygu’r wybodaeth a’i chywiro / ychwanegu ati.

Os nad ydych chi eisiau i ni brosesu eich gwybodaeth, neu os ydych chi’n dymuno i ni ddileu eich gwybodaeth, cysylltwch â FOI@socialcare.wales er mwyn i ni allu ystyried eich cais a’r sail ar ei gyfer.

Os hoffech chi newid eich dewisiadau o ran sut neu beth rydym ni’n ei gyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny unrhyw bryd drwy gysylltu â FOI@socialcare.wales.

Os oes gennych chi gyfrif cyflogwr Gofalwn Cymru, gallwch hefyd newid eich dewisiadau yma.

https://wecare.wales/account-dashboard

Cofiwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol byddem yn dymuno cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich manylion yn llwyr er mwyn sicrhau nad ydych yn cael rhagor o ohebiaeth.

Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich delwedd a’i bod wedi’i chynnwys mewn cyhoeddiad, a’ch bod yn dymuno tynnu eich caniatâd yn ôl, dylech fod yn ymwybodol na fyddem yn gallu dinistrio pob copi o’r ddogfen honno. Fodd bynnag, byddem yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ddelwedd mewn unrhyw atgynhyrchiadau pellach o’r adeg pan fyddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl.

Gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu

Rydym yn cynhyrchu ystod o ddeunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau i hyrwyddo arferion da, datblygiadau ac adnoddau a all ychwanegu at wybodaeth a helpu i wella ymarfer yn y sector.

Y manylion rydym ni’n eu cadw:

  • manylion cyswllt
  • meysydd diddordeb
  • manylion cyflogaeth

Er mwyn ein galluogi i wneud y canlynol:

  • dosbarthu gwybodaeth am feysydd sydd o ddiddordeb i chi
  • dosbarthu cylchlythyr
  • eich gwahodd i fynychu digwyddiadau, gweminarau, hyfforddiant neu ddysgu
  • i ddosbarthu arolygon

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan Adran 68 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i hyrwyddo a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth, a gallwn ddefnyddio gwybodaeth a gesglir o Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru i ymgysylltu â chi.

Weithiau, efallai y bydd angen eich caniatâd* arnom i gadw’r wybodaeth hon, a byddwn yn ei gwneud yn glir ar y gwahoddiad neu’r ohebiaeth.

Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â thrydydd partïon a allai ei phrosesu ar ein rhan i’n helpu i gysylltu â chi. Rydym yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon a ddefnyddiwn i’n helpu yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

Os hoffech chi newid eich dewisiadau o ran sut neu beth rydym ni’n ei gyfathrebu â chi, gallwch wneud hynny unrhyw bryd drwy gysylltu â FOI@socialcare.wales.

Cofiwch, os nad ydych yn dymuno i ni anfon gohebiaeth atoch, yn ddelfrydol byddem yn dymuno cadw cofnod o hyn yn hytrach na dileu eich manylion yn llwyr er mwyn sicrhau nad ydych yn cael rhagor o ohebiaeth.

Delweddau, fideos a straeon defnyddwyr

Trwy ein hymgyrchoedd yn y cyfryngau, digwyddiadau a phrosiectau eraill, rydym yn aml yn gofyn am ganiatâd i dynnu ffotograffau a fideos, ac i ysgrifennu astudiaethau achos, blogiau ac eitemau newyddion er budd hyrwyddo ein gwaith, arferion da a datblygiadau yn y sector. Byddai caniatâd yn cael ei sicrhau drwy lenwi’r ffurflen(ni) priodol. Os ydych chi’n cydsynio i hyn, gallwch nodi sut gallwn ni ddefnyddio eich gwybodaeth ac ym mha fformat, hynny yw, ar y cyfryngau cymdeithasol, ar-lein ar ein gwefan, straeon yn y wasg, yn ein llenyddiaeth brintiedig a’n deunydd hyrwyddo. Weithiau, byddwn yn defnyddio trydydd parti / cyflenwyr i gyflawni’r broses hon a byddai’r holl arferion rhannu data’n cael eu rheoli trwy gontract a / neu gytundeb rhannu data.

Gall yr wybodaeth a gedwir gynnwys:

  • straeon personol
  • ffotograffau
  • fideos
  • gwybodaeth gyswllt gennych chi at ddibenion cyfathrebu â chi mewn perthynas â’r mater hwn yn unig

Pwrpas cadw’r wybodaeth hon yw:

  • hyrwyddo ein gwaith a’n gwasanaethau
  • cynorthwyo gydag anghenion hyfforddi a datblygu’r gweithlu
  • prosesu ceisiadau
  • ar gyfer ein cofnodion ein hunain, er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i unigolion
  • cysylltu ag unigolion mewn ymateb i ymholiad penodol

Gellir rhannu’r wybodaeth hon â’r canlynol:

  • y cyhoedd drwy gyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a’n hadnoddau

Rwy’n deall y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru, fel Rheolydd Data, yn cadw fy nata personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, ac yn unol ag amserlen cadw data Gofal Cymdeithasol Cymru, sef am gyfnod o saith mlynedd.

Mae eich gwybodaeth bersonol a’ch caniatâd cysylltiedig yn cael eu cadw gennym ni a gellir eu defnyddio yn y fformatau rydych chi wedi cytuno arnynt am gyhyd â saith mlynedd. Os hoffech dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â FOI@socialcare.wales.

Dylech fod yn ymwybodol, pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu, gyda’ch caniatâd chi gyda thrydydd parti, fel y wasg neu ar gyfryngau cymdeithasol, bydd Hysbysiad Preifatrwydd a chyfnod cadw’r trydydd parti yn berthnasol, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros hyn.

Rhaglen Llysgenhadon

Rydym yn rhedeg rhaglen llysgenhadon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant ar hyn o bryd.

Y manylion rydym ni’n eu cadw:

  • manylion cyswllt
  • lleoliad y gwaith
  • manylion cyflogaeth

Er mwyn ein galluogi i wneud y canlynol:

  • rhannu eich gwybodaeth â chysylltydd gofal rhanbarthol perthnasol Gofalwn Cymru

Porthol Swyddi

Ym mhorthol swyddi Gofalwn Cymru (www.gofalwn.cymru/swyddi) dim ond fel data anhysbys y caiff gwybodaeth ymwelwyr ei storio, ac yn y gosodiadau Cwcis a’r caniatâd a roddir gan y defnyddiwr.

Caiff manylion cyflogwyr cofrestredig eu cadw fel rhan o’r broses gofrestru, a’u storio yn unol â’n polisi storio data [AB1].

Rydym yn cadw’r manylion canlynol:

  • enw’r cyflogwr
  • manylion cyswllt
  • enw’r sefydliad
  • yr hyn sy’n cael ei gynnig gan sefydliadau (er enghraifft, cynlluniau prentisiaeth, lleoliadau gwaith)

Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • gwirio sefydliadau
  • gwirio postiadau swydd
  • rhannu cynigion cyflogwyr ar ein gwefan

Rhaglenni hyfforddi

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cofrestru fel rheolydd data gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym wedi gofyn amdani yn y ffurflen atodedig:

  • i brosesu ceisiadau / cofrestriadau
  • ar gyfer ein cofnodion ein hunain, er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i unigolion
  • i gysylltu ag unigolion mewn ymateb i ymholiad penodol
  • i gasglu data at ddibenion ystadegol ac ymchwil
  • i gysylltu ag unigolion ar ôl y rhaglen i gael eu hadborth
  • i gysylltu ag unigolion ar ôl y rhaglen i fonitro statws cyflogaeth / addysg
  • i ddarparu diweddariadau a gwybodaeth am gyrsiau neu ddigwyddiadau eraill sy’n berthnasol yn ein barn ni

Efallai y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill at ddibenion gweinyddu, darparu arweiniad gyrfa ac arweiniad arall, a dibenion ystadegol, ymchwil a diogelu. Dim ond pan fydd y rhannu’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 y bydd hyn yn digwydd.

Gellir cysylltu ag unigolion ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu i ganfod a ydynt wedi cael gwaith neu wedi mynd ymlaen i hyfforddiant neu addysg bellach.

Mae gennych rai hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoli sut rydym yn defnyddio eich data, drwy ofyn i ni ei ddiwygio, ei ddileu neu gyfyngu ar sut rydym yn ei ddefnyddio. I arfer yr hawliau hyn, dylech anfon neges e-bost at Kate Salter, y Swyddog Diogelu Data, yn y cyfeiriad isod:

FOI@socialcare.wales

Os ydych chi’n credu bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni adolygu’r wybodaeth a’i chywiro / ychwanegu ati.

Os ydych chi’n gwrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth, neu os ydych chi’n dymuno i ni ddileu eich gwybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data er mwyn i ni allu ystyried eich cais a’r sail ar ei gyfer.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cofrestru fel rheolydd data gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym wedi gofyn amdani yn y ffurflen atodedig:

  • i gysylltu â chi gydag unrhyw ymholiadau am y Cynllun Gwarantu Cyfweliad
  • i fonitro cynnydd y Cynllun Gwarantu Cyfweliad
  • i hysbysebu eich cynnig a’ch manylion cyswllt ar ein gwefan a / neu yn ein pecyn adnoddau i gyfranogwyr
  • i gasglu data at ddibenion ystadegol ac ymchwil
  • i wella ein gwasanaethau a’n rhaglenni
  • i anfon gwahoddiadau sy’n berthnasol i gyflogwyr am hyfforddiant, digwyddiadau, deunydd hyrwyddo neu weithgorau a allai fod o ddiddordeb i chi

Os ydych chi’n credu bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, gallwch ofyn i ni adolygu’r wybodaeth a’i chywiro / ychwanegu ati trwy anfon neges e-bost at: ceri.middleton@socialcare.wales.

Os nad ydych chi eisiau i ni brosesu eich gwybodaeth neu os ydych chi’n dymuno i ni ddileu eich gwybodaeth, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data, kate.salter@socialcare.wales, er mwyn i ni allu ystyried eich cais a’r sail ar ei gyfer.

Y rheini sy’n mynychu digwyddiadau a rhwydweithiau rhanddeiliaid

Rydym yn cadw’r manylion canlynol:

  • enwau
  • manylion cyswllt
  • swydd (os yw’n berthnasol)
  • man gwaith
  • gofynion mynediad
  • anghenion deietegol

Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • rheoli ein digwyddiadau
  • cynorthwyo gyda hyfforddiant a datblygiad
  • cael adborth ar ein gwaith presennol ac yn y dyfodol
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith presennol ac yn y dyfodol

Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon, ond weithiau rydym yn defnyddio meddalwedd trydydd parti i anfon manylion, rheoli archebion a dosbarthu arolygon. Mae pob meddalwedd trydydd parti yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

Gallwn hefyd, ar adegau, ddefnyddio hwylusydd trydydd parti i arwain cyfarfodydd neu fforymau. Bydd unrhyw fynediad at ddata yn cael ei reoli gan ein contract gyda’r hwylusydd, a bydd disgwyl iddo lofnodi cytundeb cyfrinachedd fel rhan o’r broses honno.

Er mwyn galluogi mynychwyr digwyddiadau i rwydweithio'n effeithiol yn ein digwyddiadau, efallai y byddwn yn rhannu rhestrau cynrychiolwyr. Rhowch wybod i ni os nad ydych am i’ch manylion gael eu rhannu.

Ymwelwyr â’n swyddfeydd

Rydym yn cadw’r manylion canlynol:

  • enwau
  • manylion cyswllt
  • man gwaith
  • delweddau teledu cylch cyfyng

Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • rheoli ein rhwymedigaethau diogelwch ac iechyd a diogelwch. Rydym ni’n cadw cofrestrau ymwelwyr yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy sy’n cael eu defnyddio i alw’r gofrestr ar ôl gwagio’r adeilad, e.e. os bydd tân
  • rydym yn recordio delweddau teledu cylch cyfyng o bobl yn dod i mewn ac yn gadael ein hadeiladau, yn ogystal â safleoedd strategol o amgylch yr adeilad. Cofnodir yr wybodaeth hon er mwyn monitro diogelwch ac ymchwilio i droseddau honedig. Gellir rhannu’r delweddau fel rhan o faterion disgyblu neu gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a llysoedd yn ôl yr angen

Os nad ni yw unig feddiannydd yr adeilad (Swyddfa Caerdydd), mae teledu cylch cyfyng ychwanegol sy’n cael ei reoli gan berchnogion yr adeilad.

Pobl sy’n gwneud cwyn am Gofalwn Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym yn cadw’r manylion canlynol:

  • manylion personol
  • manylion cyswllt
  • natur y gŵyn

Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • cydymffurfio â’n gofyniad statudol i reoli cwynion

Nid ydym yn rhannu’r wybodaeth hon yn allanol er efallai y byddwn yn cyhoeddi ystadegau a manylion anhysbys am gwynion.

Rydym yn cadw cynnwys y gŵyn yn barhaol fel cofnod corfforaethol.

Pobl sy'n gwneud cwyn am Gofalwn Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym yn cadw:

  • manylion personol
  • manylion cyswllt
  • natur y gŵyn.

Rydym yn cadw'r wybodaeth hon er mwyn:

  • cydymffurfio â'n gofyniad statudol i reoli cwynion.

Nid ydym yn rhannu'r wybodaeth hon yn allanol er y gallwn gyhoeddi ystadegau dienw a manylion am gwynion.

Rydym yn cadw cynnwys y gŵyn yn barhaol fel cofnod corfforaethol.

Ymholiadau cyffredinol

Rydym yn defnyddio meddalwedd Clobba, a ddarperir gan Code Software UK Ltd, ar gyfer ein system ffôn Ymholiadau Cyffredinol. Mae’r feddalwedd a ddefnyddir yn bodloni gofynion ISO27001.

Dim ond peirianwyr cod sy’n gallu cyrchu data cwsmeriaid ar sail yr angen i wybod, at ddibenion gosod a chymorth.

Mae data a systemau Meddalwedd Codau yn cael eu cynnal mewn canolfannau data sy’n cael eu lletya gan Microsoft Azure yn yr UE.

Mae’r meddalwedd codau wedi’i gofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU.

Ar hyn o bryd, y cyfnod cadw ar gyfer data yw dwy flynedd, neu gallwn ei ddileu ar gais.

Mae’r wybodaeth rydym ni’n ei chasglu yn cynnwys:

  • galwadau (llais, fideo a chynhadledd sain)
  • cofnodion manylion galwadau
  • enw, cyfeiriad e-bost, adran, teitl
  • manylion pob cyfarfod Teams, gan gynnwys y sgyrsiau
  • rhannu apiau

Defnyddir yr wybodaeth hon ar gyfer:

  • ymateb i ymholiadau
  • adrodd ar berfformiad
  • darparu cymorth TG / rheoli galwadau, yn ôl y galw

Gweithgaredd a gomisiynwyd

Pan fydd gweithgaredd yn cael ei gomisiynu i drydydd parti / cyflenwr, byddai’r holl ddata priodol sy’n cael ei rannu yn cael ei reoli o fewn contract sefydledig neu gytundeb rhannu data.

Efallai y byddwn yn cadw’r data canlynol:

  • manylion personol
  • gwybodaeth a gyflwynir gan yr unigolyn sy’n ymwneud â’r gweithgaredd

Efallai y byddwn yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • cyflawni’r gofynion y gweithgaredd

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data anhysbys â thrydydd partïon at ddibenion ymchwil, ond rhaid i unrhyw brosiectau ymchwil fodloni meini prawf ein Fframwaith Cefnogi ac Ymgysylltu Ymchwil cyn y gellir ei rannu. Bydd canfyddiadau unrhyw brosiectau ymchwil sy’n defnyddio ein data anhysbys yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Ymholiadau am lywodraethu gwybodaeth

R

Rydym yn cadw’r manylion canlynol:

  • gwybodaeth bersonol
  • manylion cyswllt

Rydym yn cadw’r wybodaeth hon er mwyn:

  • cydymffurfio â gofynion statudol
  • prosesu ceisiadau am wybodaeth
  • crynhoi ystadegau
  • ystyried a yw ein cynllun cyhoeddi yn ddigonol

Rydym yn cadw cynnwys y ceisiadau hyn am y cyfnodau amser canlynol:

  • mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth sy’n dal i gael eu hystyried yn rhai agored yn cael eu cadw am flwyddyn. Cedwir dogfennau a agorir wedyn am ddwy flynedd
  • cedwir ceisiadau rhyddid gwybodaeth sydd wedi eu cau am 10 mlynedd
  • cedwir Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (SAR) am bum mlynedd

Efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â’r canlynol:

  • Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
  • y cyhoedd, pan fyddwn yn cyhoeddi ceisiadau ac ymatebion Rhyddid Gwybodaeth ar ein gwefan, er bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei chyhoeddi’n anhysbys.

Ymwelwyr â’n gwefan a’r ffordd mae Gofalwn Cymru yn defnyddio cwcis

Ffeiliau testun bach yw cwcis, sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw. Yn gyffredinol, maen nhw’n cael eu defnyddio er mwyn gwneud i wefannau weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal ag i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.

Rydym yn defnyddio meddalwedd rheoli cwcis CIVIC i reoli caniatâd cwcis.

Rheolir y modd cydsynio, y statws cydsynio a CIVIC o fewn Google Tag Manager (GTM). Yn ddiofyn, mae’r modd cydsynio wedi’i osod i wrthod wrth i unrhyw dudalen lwytho ar ein safleoedd. Nes bydd dewis wedi’i wneud, ni fydd cwcis yn cael eu rhoi ar borwr y defnyddiwr a bydd baner cwcis CIVIC yn dal i fod yn bresennol.

Ar eich ymweliad cyntaf, cewch ddewis i osod eich dewisiadau, a gallwch dderbyn neu wrthod cwcis yn eich dewis iaith gan ddefnyddio CIVIC. Bydd baner cwcis CIVIC yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am y categorïau o gwcis sy’n cael eu defnyddio ar y safle, ac yn caniatáu iddynt osod eu dewisiadau ar gyfer pob categori.

  • Gallwch ddiweddaru eu dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg yn ystod ymweliad.
  • Mae'r dewisiadau sy’n cael eu gwneud yn CIVIC yn cael eu cofnodi gan CIVIC.
  • Mae'r dewisiadau sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddwyr yn CIVIC yn diweddaru’r statws cydsynio yn GTM.
  • Bydd diweddariadau i’r statws cydsynio (derbyn / gwrthod) yn caniatáu / rhwystro tagiau.