Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am fod yn Llysgennad

Our ambassador laughing

Fel llysgennad gallwch hyrwyddo'r bobl sy'n gweithio yn ein sector gan annog eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal.

Fel llysgennad gallwch hyrwyddo'r bobl sy'n gweithio yn ein sector gan annog eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal.

P'un a yw'n ysbrydoli’r rhai sy’n gadael ysgol i ystyried posibiliadau gyrfa ym maes gofal neu fynd i ffeiriau swydd, gallwch ein helpu i drawsnewid dyfodol gofal.

Gall hyn gynnwys:

  • cyflwyniadau i ysgolion neu fyfyrwyr coleg
  • trafodaethau neu sgyrsiau anffurfiol
  • mynychu ffeiriau, digwyddiadau neu gynadleddau gyrfa neu swyddi.
Rwy'n cael rhannu fy angerdd i hyrwyddo'r sector a hefyd helpu pobl nad ydyn nhw efallai'n gwybod pa rolau sydd ar gael ac i ba faes maen nhw am fynd.
Rachel Williams

Gall llysgennad fod ar unrhyw lefel gyrfa ond bydd angen bod yn ymroddedig, yn hyderus ac yn gyfathrebwr gwych.

  • mae’r rôl yn hollol wirfoddol
  • byddwch yn cael cynrychiolydd rhanbarthol i helpu i'ch cefnogi a'ch arwain
  • byddwch yn cael llwyfan a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i rannu eich angerdd gyda phobl newydd
  • yn ogystal â datblygu eich sgiliau a'ch hyder, gallwch hybu eich datblygiad proffesiynol ymhellach, gan roi rhywbeth yn ôl i sector rydych yn angerddol amdano
  • byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Dod yn Llysgennad