Neidio i'r prif gynnwys

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn hanfodol i bontio'r bwlch rhwng addysg neu hyfforddiant a'r byd gwaith.

Ar ei orau, gall agor llygaid pobl i swyddi nad oeddent erioed wedi meddwl amdanynt, llywio penderfyniadau gyrfa a darparu profiad gwerthfawr ar gyfer ceisiadau am swyddi a mynediad i addysg uwch.

Lleoliadau gwaith i ddysgwyr

Canllawiau a chymorth i ddysgwyr (disgyblion ysgol a'u rhieni/gofalwyr, myfyrwyr, ceiswyr gwaith, dychwelwyr i'r gwaith) ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl o leoliadau gwaith, sut i sicrhau bod y lleoliad yn addas a gwybod beth fydd yn ddisgwyliedig gennych.

Lleoliadau gwaith i gyflogwyr

Canllawiau i gyflogwyr sydd eisiau buddsoddi yn y gweithlu yn y dyfodol a'i gefnogi, gan ysgogi ac ysbrydoli pobl i weithio yn y sectorau. Dyma wybodaeth am yr hyn y dylech ei gael ar waith i ddiwallu anghenion dysgwyr, gofynion rheoleiddiol neu ddeddfwriaethol a sut i sicrhau'r buddion mwyaf posibl ar gyfer eich lleoliad/darpariaeth gwasanaeth.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sydd ar gael