Mae Gofalwn Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion.
Os oes gennych chi agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna ar gyfer y rhan fwyaf o rolau, gallwch dderbyn unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi yn y swydd. Mae pob math o ffyrdd o weithio’n hyblyg, felly gallwch drefnu gofalu am bobl o’ch cwmpas chi a’ch teulu.
I’r bobl iawn, mae’n un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil yn y byd. Dysgwch fwy am y swyddi sydd ar gael yn gweithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru, neu rhowch gynnig ar ein hadnodd dysgu ‘Gofal yn Galw‘ i weld sut beth yw gyrfa mewn gofal.
Am swyddi gwag yn eich ardal chi, ewch i’n porth swyddi.
Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Gofal plant. Yma i adeiladu dyfodol eich plant a’ch un chi.
Diolch yn fawr iawn i Tracey a Hollies Daycare Nursery am ein helpu i greu'r ffilm arbennig hon.
Sam Tanner
Dirprwy Reolwr
Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, aeth Sam i'r coleg i gwblhau ei Lefel 3 CACHE yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar ôl bod eisiau gweithio gyda phlant erioed. Dechreuodd ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies fel Nyrs Feithrin ac yna gweithiodd ei ffordd i fyny i ddod yn Ddirprwy Reolwr.
Tracey Jones
Rheolwr Meithrin
Ar ôl gadael y brifysgol, gwnaeth Tracey gais am swydd fel Cynorthwyydd Meithrin ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies. Yn ystod yr amser hwnnw, llwyddodd i gwblhau ei chymwysterau a symud ymlaen ddod yn Rheolwr Meithrin.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.