Neidio i'r prif gynnwys

Ymarferydd Gofal Dydd

Fel Ymarferydd neu Uwch-ymarferydd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd i blant mewn rôl oruchwylio, neu mewn rôl sydd ddim yn cael ei goruchwylio. Byddai’r Ymarferwyr Cynorthwyol yn darparu gofal dydd i blant mewn rôl sydd ddim yn cael ei goruchwylio.

Action shot - children playing tea party outside with nursery worker Sam Tanner.

Bod yn Ymarferydd Gofal Dydd

Drwy weithio mewn tîm, byddwch yn helpu i greu awyrgylch diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, a hynny er mwyn cefnogi eu gofal, eu chwarae, eu dysgu a’u datblygiad. Byddwch yn arsylwi ac yn cofnodi datblygiad, cynnydd, diddordebau ac unrhyw broblemau a allai godi. Byddwch hefyd yn llunio gweithgareddau addysgol i gefnogi eu dysgu parhaus.

Byddwch yn darparu gofal fel bwydo, newid clytiau, a gosod trefn reolaidd. Byddwch yn annog cymdeithasu ac yn helpu plant i ddarganfod diddordebau newydd. Byddwch hefyd yn paratoi plant i ymuno â’r lefel nesaf o ofal yn yr ysgol.

Gallwch hefyd symud ymlaen i fod yn Uwch Ymarferydd, lle byddwch yn arwain ar faes, er enghraifft y Cyfnod Sylfaen neu anghenion dysgu ychwanegol.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae meithrinfeydd dydd a meithrinfeydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni sy’n gweithio, drwy gynnig gofal plant o’u geni. Defnyddir y termau meithrinfa ddydd, gofal dydd a meithrinfa yn gyfnewidiol i ddisgrifio’r man lle mae rhieni’n anfon eu plant i gael gofal yn ystod oriau gwaith.

Stori Sam

Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, aeth Sam i’r coleg i gwblhau ei Lefel 3 CACHE yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar ôl bod eisiau gweithio gyda phlant erioed.

Dechrau arni fel Ymarferydd Gofal Dydd

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • natur ofalgar ac amyneddgar
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • dychymyg a chreadigrwydd
  • gallu addasu i sefyllfaoedd sy’n newid
  • gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei gynnwys
  • gallu derbyn cyfarwyddyd gan yr Uwch Ymarferydd/Rheolwr
  • hyder wrth ddelio â phlant ac oedolion
  • gallu rhoi cyfarwyddyd i Ymarferwyr Cynorthwyol.

Cymwysterau Gofynnol

Gallwch ddod o hyd i’r cymwysterau sydd eu hangen neu’r cymwysterau a argymhellir ar gyfer y rôl hon gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.