00:00:00,000 --> 00:00:04,800
Sut mae gofal cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?
00:00:04,800 --> 00:00:08,360
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol
i lawer o bobl Cymru,
00:00:08,360 --> 00:00:10,320
ond mae’n cael ei gamddeall yn aml.
00:00:10,960 --> 00:00:13,520
Beth yw ystyr gofal cymdeithasol?
00:00:13,520 --> 00:00:16,800
Mae’n derm eang sy’n disgrifio gofal a chymorth,
00:00:16,800 --> 00:00:20,800
sy’n galluogi pobl o bob oed i ymdopi
â’u bywydau bob dydd,
00:00:20,800 --> 00:00:24,360
yn aml pan fyddan nhw’n wynebu
heriau anodd a chymhleth.
00:00:24,360 --> 00:00:27,280
Gall cymorth gofal cymdeithasol gynnwys cyngor,
00:00:27,280 --> 00:00:29,520
cysylltu pobl â chymunedau lleol,
00:00:29,520 --> 00:00:32,480
sefydlu amgylcheddau byw diogel a sefydlog,
00:00:32,480 --> 00:00:34,840
a darparu gofal personol.
00:00:34,840 --> 00:00:40,960
Mae hefyd yn darparu cymorth emosiynol
i bobl reoli eu hiechyd corfforol a/neu feddyliol.
00:00:40,960 --> 00:00:43,600
Gall gofalwyr di-dâl gael cymorth hefyd.
00:00:44,120 --> 00:00:46,840
Cael mynediad at ofal cymdeithasol.
00:00:47,120 --> 00:00:51,280
Mae 22 awdurdod lleol Cymru
yn chwarae rhan allweddol
00:00:51,280 --> 00:00:55,360
wrth drefnu a chysylltu pobl
â’r gofal a’r cymorth cywir.
00:00:55,360 --> 00:00:58,520
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio proses asesu
00:00:58,520 --> 00:01:02,320
i ddeall cryfderau ac anghenion
gofal a chymorth pobl.
00:01:02,320 --> 00:01:08,160
Maen nhw’n asesu a yw anghenion pobl yn gymwys
i gael cymorth a chyllid gan yr awdurdod lleol,
00:01:08,160 --> 00:01:13,200
ac mae gofyn i rai unigolion dalu tuag
at eu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:13,200 --> 00:01:18,640
Ledled Cymru, mae gan fwy nag un
o bob 50 o bobl gynllun gofal a chymorth,
00:01:18,640 --> 00:01:20,840
sy’n nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
00:01:20,840 --> 00:01:25,880
a sut byddan nhw’n cael eu cefnogi
i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol.
00:01:26,680 --> 00:01:29,640
Pwy sy’n darparu gofal cymdeithasol?
00:01:30,120 --> 00:01:36,320
Mae dros 300,000 o ofalwyr di-dâl
yn darparu gofal a chymorth ledled Cymru.
00:01:36,320 --> 00:01:41,280
Gallan nhw fod o unrhyw oedran, yn aml maen
nhw’n aelodau o'r teulu neu'n ffrindiau,
00:01:41,280 --> 00:01:46,440
a gallan nhw hefyd gael mynediad at gymorth
gofal cymdeithasol iddyn nhw’u hunain.
00:01:46,440 --> 00:01:52,320
Mae dros 1200 o sefydliadau yng Nghymru
yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
00:01:52,320 --> 00:01:55,360
Busnesau preifat neu sefydliadau trydydd sector,
00:01:55,360 --> 00:01:57,680
fel elusennau, yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
00:01:57,680 --> 00:02:03,600
Mae’r sefydliadau yma’n cyflogi dros
84,000 o weithwyr gofal a chymorth.
00:02:03,600 --> 00:02:08,720
Gall awdurdodau lleol roi taliadau
i bobl tuag at gostau eu gofal a chymorth.
00:02:08,720 --> 00:02:11,480
Taliadau uniongyrchol yw enw’r rhain,
00:02:11,480 --> 00:02:16,400
ac mae pobl yn eu defnyddio i gyflogi
eu gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain.
00:02:16,720 --> 00:02:19,160
Sut mae safonau uchel
yn cael eu cynnal
00:02:19,160 --> 00:02:23,160
ar draws gwasanaethau
gofal cymdeithasol yng Nghymru.
00:02:23,160 --> 00:02:24,680
Rheoliadau.
00:02:24,680 --> 00:02:28,200
Yng Nghymru, caiff gwasanaethau
gofal cymdeithasol
00:02:28,200 --> 00:02:31,120
eu rheoleiddio gan
Arolygiaeth Gofal Cymru.
00:02:31,120 --> 00:02:34,520
Maen nhw’n cofrestru, yn arolygu
ac yn cymryd camau
00:02:34,520 --> 00:02:37,680
i wella ansawdd
a diogelwch gwasanaethau.
00:02:37,680 --> 00:02:40,680
Caiff y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol
00:02:40,680 --> 00:02:43,680
eu rheoleiddio gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
00:02:43,680 --> 00:02:46,160
Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw gofrestru,
00:02:46,160 --> 00:02:50,720
cyflawni cymwysterau penodol,
a dilyn Codau Ymarfer Proffesiynol.
00:02:50,720 --> 00:02:52,200
Deddfwriaeth.
00:02:52,360 --> 00:02:55,000
Rhaid i'r gwasanaethau gofal cymdeithasol
00:02:55,000 --> 00:02:57,640
gydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol,
00:02:57,640 --> 00:03:02,200
fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014.
00:03:02,840 --> 00:03:05,520
Mae’r Ddeddf yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n
00:03:05,520 --> 00:03:08,760
gweithio gyda phobl sy’n cael
mynediad at ofal a chymorth
00:03:08,760 --> 00:03:11,280
i nodi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
00:03:11,280 --> 00:03:15,520
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol
hefyd yn gweithio gyda phartneriaid
00:03:15,520 --> 00:03:18,320
fel gwasanaethau iechyd, addysg, tai,
00:03:18,320 --> 00:03:22,920
yr heddlu ac elusennau i wneud
y defnydd gorau o adnoddau.
00:03:22,920 --> 00:03:26,160
Rhaid i’r unigolyn sy’n
cael mynediad at ofal a chymorth
00:03:26,160 --> 00:03:28,760
fod yn ganolog i’r broses.
00:03:29,200 --> 00:03:32,000
I gael rhagor o wybodaeth
am ofal cymdeithasol,
00:03:32,000 --> 00:03:34,800
ewch i gofalcymdeithasol.cymru
00:03:34,960 --> 00:03:37,040
Hoffech chi ddilyn
gyrfa ym maes gofal?
00:03:37,040 --> 00:03:39,160
Ewch i gofalwn.cymru