37 awr yr wythnos
3 x swydd ar gael
Mae'r Arweinwyr Tîm yn darparu arweinyddiaeth weithredol, goruchwyliaeth reoli a pharhad gwasanaeth ar draws y Gwasanaeth Asesu ac Ailalluogi Tymor Byr.
Mae'r swydd yn gweithredu fel y cyswllt allweddol rhwng staff gofal cymdeithasol rheng flaen ac uwch-reolwyr, gan sicrhau darpariaeth ddiogel, effeithiol a chyson ar draws asesu tymor byr, ailalluogi, cymorth dementia, llwybrau rhyddhau o'r ysbyty a phecynnau gofal cymhleth. Mae'r rôl yn darparu goruchwyliaeth o ddydd i ddydd, rheoli perfformiad a chymorth proffesiynol i staff gofal, gan helpu i gynnal ansawdd y gwasanaeth, safonau diogelu a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Mae'r Arweinwyr Tîm hefyd yn allweddol wrth gydlynu asesiadau, cynllunio gofal, adolygiadau a gweithio amlddisgyblaethol gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl yn cael cymorth amserol, sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n hyrwyddo annibyniaeth, yn atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac yn cefnogi rhyddhau diogel o'r ysbyty.
Heb y rôl hon, byddai gostyngiad sylweddol mewn capasiti rheoli, gan greu risgiau o ran goruchwylio gwasanaethau, cymorth staff, sicrhau ansawdd, datblygu'r gweithlu a gwydnwch gweithredol. Mae'r swydd felly yn hanfodol wrth gynnal parhad gwasanaeth, cefnogi sefydlogrwydd y gweithlu a sicrhau y gallwn barhau i fodloni ein dyletswyddau statudol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n derbyn gofal a chymorth yn y gymuned.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 04 Rhagfyr
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person