Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol fel Arweinydd Tîm.
Mae'r rôl werth chweil hon yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi unigolion i gael mwy o ddewis, annibyniaeth a rheolaeth dros sut mae eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu trwy Daliadau Uniongyrchol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi darpariaeth weithredol y Gwasanaeth Gweinyddu Taliadau Uniongyrchol, gan sicrhau bod cymorth ariannol, cyflogres a gweinyddol o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i unigolion sy'n trefnu a rheoli eu gofal eu hunain.
Wedi'ch lleoli yn Neuadd y Sir gyda threfniadau gweithio hybrid hyblyg ar gael, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Gweinyddu Taliadau Uniongyrchol a Chyflogres i gydlynu llwythi gwaith ar draws y tîm, cefnogi datblygiad staff a helpu i ysgogi gwelliant parhaus i'r gwasanaeth.
Prif gyfrifoldebau
- Cynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Gwasanaeth Gweinyddu Taliadau Uniongyrchol o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod ymholiadau, ceisiadau a thasgau'n cael eu rheoli'n effeithlon ac yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cydlynu a blaenoriaethu llwythi gwaith ar draws y Tîm Gweinyddu Taliadau Uniongyrchol er mwyn cynnal safonau darparu gwasanaethau a chymorth effeithiol i gwsmeriaid.
- Darparu cyfarwyddyd, hyfforddiant a chefnogaeth ddyddiol i aelodau'r tîm, gan helpu staff i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen i gyflawni eu rolau'n effeithiol.
- Adolygu a dyrannu atgyfeiriadau Taliad Uniongyrchol, gan sicrhau prosesu manwl gywir a chysylltu â gweithwyr proffesiynol ac adrannau perthnasol pan fo angen.
- Sicrhau bod cytundebau pecynnau gwasanaeth a chofnodion ariannol yn cael eu cynnal yn fanwl gywir yn unol â chynlluniau gofal a chymorth.
- Cynhyrchu a dadansoddi gwybodaeth reoli ac adroddiadau o berfformiad gan ddefnyddio Microsoft Excel ac offer adrodd eraill.
- Monitro achosion Taliadau Uniongyrchol ac uwchgyfeirio materion yn briodol i'w hadolygu neu i gymryd camau pellach.
- Cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a datblygu Taliadau Uniongyrchol, gan gynnwys trefnu sesiynau ymwybyddiaeth, digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Cynnal cofnodion cwsmeriaid a chronfeydd data manwl gywir yn unol â gofynion gwasanaeth a safonau diogelu data.
- Cynorthwyo Rheolwr Gweinyddu Taliadau Uniongyrchol a Chyflogres gyda materion gweithredol a staffio, gan gynnwys gwaith monitro perfformiad a nodi anghenion hyfforddi.
- Teithio o fewn y sir o bryd i'w gilydd i fynychu cyfarfodydd, digwyddiadau, ymweliadau â defnyddwyr gwasanaeth neu i ymweld â safleoedd eraill y cyngor.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol, trefnus a hawdd mynd ato sydd â sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu cryf.
Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar y canlynol:
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddu busnes, ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid neu ofal cymdeithasol.
- Profiad o gydlynu llwythi gwaith, cefnogi cydweithwyr a chyfrannu at welliannau i ddulliau darparu gwasanaethau.
- Sgiliau trefnu cryf gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro a bodloni terfynau amser.
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau a dadansoddi gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Excel, gan gynnwys fformiwlâu a thablau colynnu.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol gyda'r gallu i weithio'n effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid.
- Sylw da i fanylion a'r gallu i gynnal cofnodion a gwybodaeth ariannol fanwl gywir.
- Y gallu i weithio'n annibynnol tra hefyd yn cefnogi amgylchedd tîm cydweithredol.
- Byddai gwybodaeth, profiad neu ddealltwriaeth o Daliadau Uniongyrchol yn fanteisiol.
- Mae cymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn busnes neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â goruchwylio yn ddymunol.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar
- Trefniadau gweithio hybrid, hyblyg
- Pecyn gwyliau blynyddol hael o 26 diwrnod gwaith y flwyddyn, yn codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus (pro rata)
- Wyth niwrnod o wyliau cyhoeddus ychwanegol (pro rata)
- Cynllun prynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Cynllun Gwirfoddoli Gweithwyr gyda hyd at dri diwrnod y flwyddyn o amser gwirfoddoli â thâl
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cynllun pensiwn â buddion diffiniedig ar sail cyfartaledd cyflog gyrfa)
Gwnewch gais nawr i ymuno â thîm cefnogol a helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy barhau i ddatblygu a chyflwyno'r Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol.
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk.
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.