37 awr yr wythnos
Rydym yn falch iawn o fod yn recriwtio ar gyfer swydd Cydlynydd Amser Teulu sydd newydd ei chreu yn ein Gwasanaeth Amser Teulu.
Mae hwn yn gyfle prin a chyffrous i unigolyn profiadol ac angerddol helpu i lunio datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol, gan gyfuno cyfrifoldebau cydlynu gweithredol â gwaith uniongyrchol i gefnogi plant a theuluoedd. Mae'r rôl wedi'i chreu i gryfhau'r ddarpariaeth amser teulu ar draws y gwasanaeth, gan sicrhau bod plant yn profi trefniadau amser teulu diogel ac ystyrlon sy'n canolbwyntio ar y plentyn wrth gefnogi cydlynu effeithiol gwasanaeth sy'n gynyddol brysur ac sy'n datblygu.
Fel Cydlynydd Amser Teulu, byddwch yn gyfrifol am gefnogi'r gwaith o gydlynu a darparu gwasanaethau amser teulu o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod trefniadau'n cael eu cynllunio'n effeithlon, yn ddiogel ac yn unol â chynlluniau gofal y plant, cyfarwyddiadau'r llys ac anghenion asesedig.
Gan weithio'n agos gyda'r Dirprwy Reolwr Gwasanaeth Amser Teulu, byddwch yn cynorthwyo i ddyrannu ac amserlennu sesiynau amser teulu, yn cefnogi'r gwaith cynllunio gweithredol ac yn rhoi arweiniad i Weithwyr Cymorth Amser Teulu.
Ochr yn ochr â'ch cyfrifoldebau cydlynu, byddwch yn cynnal llwyth achosion gweithredol ac yn ymgymryd yn uniongyrchol â sesiynau amser teulu dan oruchwyliaeth. Mae'r rôl hon yn dal i fod wedi'i gwreiddio'n gadarn mewn ymarfer rheng flaen, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus barhau i weithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, gan arsylwi ar amser teulu, cofnodi ac adrodd a chefnogi'r gwaith o ddarparu profiadau amser teulu o ansawdd uchel.
Gall sesiynau amser teulu gael eu cynnal yn y sir a'r tu allan iddi, a rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon ac yn gallu teithio yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Bydd y gallu i gydbwyso cyfrifoldebau cydlynu ag ymarfer uniongyrchol yn hanfodol i lwyddiant yn y rôl hon.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa, gan ddatblygu sgiliau cydlynu a chadw cysylltiad ag ymarfer rheng flaen ar yr un pryd.
Os ydych yn drefnus, yn llawn cymhelliant, yn canolbwyntio ar blant ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth, ymunwch â ni yn y rôl newydd gyffrous hon a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau amser teulu i blant a theuluoedd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 a 15 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person