Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi’n chwilio am gyfle i weithio yn nhrefi bach a chefn gwlad hyfryd Gorllewin Cymru ar gyfer awdurdod lleol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n darparu cefnogaeth dda i’w staff ynghyd â chyfleoedd datblygu gyrfa?
Mae gennym gyfle i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ymuno â Gofal wedi’i Gynllunio o fewn Porth Cynnal. Mae’r tîm yn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sydd â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau diogelu, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n paratoi i adael gofal. O dan oruchwyliaeth a gyda chymorth staff gwaith cymdeithasol cymwysedig, byddwch yn cyflawni gwaith uniongyrchol y cytunwyd arno, yn darparu cymorth ymarferol i blant a theuluoedd, yn cyfrannu at asesiadau a chynlluniau gofal a chymorth, yn monitro cynnydd ac yn cadw cofnodion clir. Byddwch yn cydweithio â theuluoedd, gofalwyr, ysgolion, gwasanaethau iechyd a phartneriaid eraill, gan helpu plant a phobl ifanc i fynegi eu dymuniadau a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Bydd tasgau’n cael eu dyrannu yn unol â’ch cymhwysedd, y cynllun y cytunwyd arno a’r risg a aseswyd. Mae’r rôl yn cefnogi cyfrifoldebau statudol gweithwyr cymdeithasol cymwysedig, ond nid yw’n cymryd eu lle.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi’n trawsnewidio i fodel gydol oed a theulu cyfan a fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion, ac mae hyn wedi arwain at gyfleoedd cyffrous ar gyfer cydweithredu gydag adrannau o fewn yr awdurdod yn ogystal â’n hasiantaethau partner.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd o’i benodiad.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Lleoliad Gwaith Cytundebol: Penmorfa
Oriau Wythnosol: 37 awr
Patrwm Gwaith Wythnosol: 5 diwrnod, 9am–5pm; ambell benwythnos.
Categori Arddull Gwaith: Hybrid
Cynllun Hyblyg: Ydy
Nifer yr wythnosau gwaith y flwyddyn: 52
Oriau Anghymdeithasol: Ambell benwythnos
Math o Gontract: Parhaol
Dyddiad dechrau disgwyliedig: 04/01/2027
Statws cyfyngiad gwleidyddol: Ydy
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: John.Callow@ceredigion.gov.uk neu Youssef.Shawish@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.