Dewch yn Ofalwr Maeth gyda Maethu Cymru Conwy
Allech chi gynnig cartref gofalgar i blentyn neu berson ifanc yng Nghonwy?
Mae Maethu Cymru Conwy yn chwilio am bobl o bob cefndir i ddod yn Ofalwyr Maeth a chynnig y sefydlogrwydd, y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar blant lleol i ffynnu.
Mae dod yn Ofalwr Maeth yn benderfyniad sy’n helpu plentyn sydd angen rhywun ar eu hochr nhw. Rhywun i wrando arnynt a’u credu, ac i ddarparu cartref diogel a gofalgar.
Gall aros yn lleol wneud gwahaniaeth mawr i blant mewn gofal. Gall eu helpu i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth, cadw cysylltiad â’u hysgol, eu ffrindiau a’u cymuned, lleihau straen a magu hyder ar gyfer y dyfodol.
Beth mae Gofalwr Maeth yn ei wneud?
Fel Gofalwr Maeth, fe fyddwch chi’n:
- Cynnig cartref teuluol gofalgar a sefydlog.
- Cefnogi plentyn neu unigolyn ifanc â’u hanghenion emosiynol a datblygiadol.
- Gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, timau addysg a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Cadw cofnodion ysgrifenedig clir a mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.
- Cefnogi plant gydag arferion ysgol, apwyntiadau a gweithgareddau.
- Rhoi amser i hyfforddiant, datblygiad a chyfarfodydd.
- Helpu plant i gynnal perthnasoedd pwysig gydag aelodau o’r teulu a’u cymuned.
Pam Maethu gyda Chonwy?
Mae paru’r plentyn cywir gyda’r Gofalwr Maeth cywir yn ganolog i holl waith Maethu Cymru Conwy.
Rhoddir ystyriaeth ofalus i’r hyn yr ydych chi’n ei ffafrio, eich profiadau, eich cryfderau a’ch amgylchiadau, er mwyn helpu i sicrhau’r trefniant paru gorau posibl.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm lleol sy’n deall anghenion plant yng Nghonwy ac a fydd yno i’ch helpu chi a’r plentyn trwy gydol eich siwrnai faethu.
Gallwch ddisgwyl:
- Cefnogaeth ac ymweliadau rheolaidd gan eich gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol dynodedig
- Bydd tîm profiadol ar gael i ddarparu cyngor ac arweiniad
- Cymorth y tu allan i oriau 24/7
- Cefnogaeth gan Ofalwyr Maeth profiadol
- Bydd cymorth therapiwtig ar gael
- Cyfleoedd i gwrdd â Gofalwyr Maeth lleol eraill
- Cynhigir digwyddiadau cefnogi rheolaidd i chi a’ch aelwyd
- Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
- Bod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu
- Aelodaeth CADW
- Mynediad at ostyngiadau Gofalwyr Maeth
- Treth y Cyngor ar gyfradd ostyngol
- Aelodaeth FFIT Conwy ar gyfer pawb ar yr aelwyd
- Trwyddedau parcio ar gyfer meysydd parcio Bwrdeistref Sirol Conwy
- 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig ar gyfer gweithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Fe fydd yna ddigon o gyfleoedd i chi gysylltu, rhannu profiadau a thyfu gydag eraill trwy gydol eich siwrnai faethu.
Ai chi yw’r un ar gyfer y rôl hon?
Mae pob Gofalwr Maeth yn unigryw ac mae Maethu Cymru Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob oed a chefndir.
Nid oes angen profiad blaenorol o faethu arnoch chi. Yr hyn sy’n bwysig yw bod gennych ddigon o amser, ymrwymiad, amynedd a gwytnwch i ddarparu cartref cefnogol a diogel ar gyfer plentyn.
Bydd angen i chi:
- Fod ag o leiaf un ystafell wely sbâr yn benodol ar gyfer maethu.
- Fod yn barod i gofrestru’n hunangyflogedig.
- Ymrwymo i hyfforddiant a datblygiad parhaus.
- Bod â rhwydwaith cefnogol o deulu a ffrindiau.
- Bod â’r amser a’r ymrwymiad sydd eu hangen i ofalu am blentyn.
Cymorth Ariannol
Fel Gofalwr Maeth gyda Maethu Cymru Conwy, fe fyddwch yn derbyn cymorth ariannol er mwyn cydnabod y rôl bwysig yr ydych chi’n ei chwarae. Gan gynnwys hefyd:
- Treth y Cyngor: hyd at 10% o ryddhad yn ôl disgresiwn.
- Mynediad at ostyngiadau ar gyfer Gofalwyr Maeth, wrth ddefnyddio cardiau MAX a gostyngiadau Blue Light.
- Lwfans Maethu, yn ogystal â’n lwfans uwch i dalu am gostau byw hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen cymorth a lwfans.
Maethu yng Nghonwy
Gall maethu yn lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant sydd angen sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn.
Trwy ddarparu cartref diogel a gofalgar, gallwch helpu plentyn i gadw mewn cysylltiad â’r bobl, y llefydd a’r cymunedau sy’n bwysig iddynt.
Ydach chi’n barod i drawsnewid bywyd - yn ogystal â’ch bywyd chithau?
Os oes gennych chi ystafell wely sbâr a’r ymrwymiad i gynnig cartref gofalgar, sefydlog a diogel ar gyfer plentyn, hoffem glywed gennych chi.
Cychwynnwch eich taith faethu heddiw.
Gwnewch ymholiadau yma: maethu gyda Chonwy
Sylwch fod symud ymlaen yn amodol ar wiriadau cefndir, asesiad a chymeradwyaeth lawn y panel maethu.