Lleoliad: Conwy (gweithio gartref)
Cyflog: £1,000 yr wythnos, fesul plentyn, yn ogystal â thaliadau ychwanegol gan gynnwys lwfans plant a lwfansau ar gyfer gwyliau, penblwyddi a dathliadau crefyddol/ diwylliannol.
Contract: Llawn Amser | Hunangyflogedig
Helpwch blentyn i symud o ofal preswyl i gartref teuluol llawn cariad
Allech chi ddarparu’r sefydlogrwydd, y gofal a’r anogaeth sydd eu hangen ar blentyn i ffynnu?
Mae Maethu Cymru Conwy yn chwilio am bobl dosturiol a gwydn i fod yn Ofalwyr Maeth Camu Ymlaen, i gefnogi plant a phobl ifanc gyda symud o ofal preswyl i gartref teuluol diogel, sefydlog a gofalgar.
Mae’r rôl faethu hon yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn. Mae’r plant sydd angen Gofalwyr Maeth Camu Ymlaen wedi profi trawma, colled neu berthnasoedd yn chwalu. Gyda’r amynedd, y ddealltwriaeth a’r cymorth cywir, gallant ddechrau teimlo’n saff, meithrin perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Fel Gofalwr Maeth Camu Ymlaen, byddwch yn darparu diogelwch bywyd teuluol ar gyfer plentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â’u cymuned leol, addysg, ffrindiau a pherthnasoedd pwysig gyda ffrindiau lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Ynglŷn â’r swydd
Fel Gofalwr Maeth Camu Ymlaen, byddwch yn:
- Darparu gofal llawn amser am blentyn neu grŵp o frodyr a chwiorydd sy’n symud o ofal preswyl.
- Creu cartref diogel, sefydlog a gofalgar, lle gall plant deimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
- Cefnogi datblygiad emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol plant.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol, y gellir ymddiried ynddynt, er mwyn helpu plant i wella o drawma.
- Gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Cadw cofnodion clir a chyfrannu at y gwaith o gynllunio gofal.
- Helpu plant i gynnal perthnasoedd pwysig gydag aelodau o’r teulu a’u cymuned leol lle bo hynny’n briodol.
Amdanoch Chi
Rydym yn croesawu ymholiadau gan unigolion a chyplau sydd:
- Yn 21 oed neu hŷn (nid oes yna unrhyw uchafswm oedran).
- Gyda hawl cyfreithiol i weithio yn y DU.
- Yn gallu darparu gofal llawn amser, gydag o leiaf un gofalwr ar gael gartref.
- Gydag un neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr yn benodol ar gyfer maethu.
- Gyda phrofiad o gefnogi plant, pobl ifanc neu oedolion, yn arbennig y rhai sydd ag anghenion cymhleth neu ymddygiad heriol neu sydd â phrofiadau go iawn.
- Yn gallu cynnig cartref gofalgar, cefnogol ac amyneddgar, lle mae plant yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu.
Mae pobl o nifer o gefndiroedd gwahanol yn dod yn ofalwyr maeth llwyddiannus. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich ymrwymiad, gwytnwch, empathi a pharodrwydd i helpu plentyn i gyrraedd eu llawn botensial.
Yr hyn yr ydym ni’n ei gynnig
Fel un o Ofalwyr Maethu Camu Ymlaen gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fe fyddwch yn derbyn:
- Ffi uwch o £52,000 y flwyddyn am faethu (cyfwerth â £1,000 yr wythnos, fesul plentyn).
- Lwfans maethu wythnosol yn gysylltiedig ag oedran ar gyfer pob plentyn a leolir.*
- Taliadau ychwanegol ar gyfer penblwyddi, gwyliau a dathliadau crefyddol neu ddiwylliannol.*
- Taliad cadw o pan roddir cymeradwyaeth nes bydd plentyn wedi’i leoli, a rhwng lleoliadau.
- £500 ar gyfer atgyfeiriadau gofalwyr maeth llwyddiannus drwy’r ap Cyfeillion Gofal.
- Hyfforddiant therapiwtig ac wedi’i lywio gan drawma.
- Cefnogaeth benodol gan dîm maethu profiadol.
- Mynediad at ystod o fuddion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys hyd at 100% o ostyngiad Treth y Cyngor, trwydded barcio Cyngor Conwy, aelodaeth Ffit a’r cynllun gostyngiad Cerdyn Blue Light.
*Caiff y taliadau eu gwneud yn unol â chyfraddau lwfans maethu cysylltiedig ag oedran yr Adran Addysg, a chânt eu hadolygu’n flynyddol.
Hawl i weithio
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â hawl cyfreithiol i weithio yn y DU. Mae hyn yn cynnwys dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig, pobl gyda Statws Preswylydd Sefydlog neu Statws Preswylydd Cyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion y DU, y rhai sydd â Chaniatâd Amhenodol i Aros, neu unrhyw un sydd â chaniatâd i fyw a gweithio yn y DU.
Bydd angen tystiolaeth o’ch hawl i weithio fel rhan o’r broses asesu.
Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf?
Os ydych chi’n chwilio am gyfle gwerth chweil i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i drawsnewid dyfodol plentyn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Dysgwch fwy am ddod yn Ofalwr Maeth Camu Ymlaen gyda Maethu Cymru Conwy heddiw.
Sylwch: Er mwyn bod yn Ofalwr Maeth, mae’n rhaid mynd trwy broses asesu gynhwysfawr, gan gynnwys gwiriadau cefndir manwl, hyfforddiant a chael cymeradwyaeth gan banel maethu annibynnol.