Os ydych chi'n ofalgar, yn bwyllog, yn cyfathrebu'n dda a bod gennych agwedd gadarnhaol ac awydd gwirioneddol i helpu eraill, rydyn ni am glywed gennych. Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y rôl hon.
Byddwch yn rhan o Dîm Gofal Canolraddol pwrpasol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio'n agos gyda nyrsys, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu gofal tymor byr, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael effaith wirioneddol ar adferiad a llesiant pobl.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
- Darparu gofal a chymorth amserol yn ystod galwadau mewn argyfwng, gan ymateb i sefyllfaoedd brys lle mae iechyd neu annibyniaeth pobl mewn perygl.
- Helpu unigolion i adennill sgiliau a hyder o ran gweithgareddau bywyd bob dydd ar ôl salwch neu ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
- Darparu gofal personol (e.e. helpu pobl i ymolchi, gwisgo, neu ddefnyddio'r toiled) gydag urddas a pharch.
- Cynorthwyo o ran paratoi prydau bwyd a meddyginiaeth i hyrwyddo iechyd ac adferiad.
- Annog a galluogi pobl i weithio tuag at eu nodau adsefydlu ac ailalluogi, gan eu helpu i fod yn annibynnol unwaith eto.
- Monitro a chofnodi cynnydd, gan roi gwybod am newidiadau o ran cyflyrau unigolion a chysylltu â'r tîm iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- Hyfforddiant llawn a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cymorth i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal proffesiynol.
- Cyflog cystadleuol iawn ac amser teithio â thâl rhwng galwadau.
- 45c y filltir ar gyfer defnydd personol o geir a mynediad i geir adrannol.
- Gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn, a buddion sy'n addas i deuluoedd.
- Gwaith sy'n rhoi boddhad ac sydd wir yn newid bywydau.
Byddwch yn cael eich croesawu i dîm gofalgar a phroffesiynol sy'n ymfalchïo mewn cefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed trwy'r broses adfer a thrwy argyfyngau. Mae'n rôl heriol ond yn un a fydd yn rhoi boddhad mawr, gan gynnig y cyfle i feithrin eich hyder a datblygu eich gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Darperir gwisgoedd, bagiau, cyfarpar diogelu personol (PPE) a ffonau symudol i'n holl ofalwyr cartref weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: