Lleoliad gwaith: Eirias, Bae Colwyn
Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dementia (Rhannu Swydd)
Patrwm Gweithio: Dydd Iau a Dydd Gwener
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ysgogedig i ymuno â’n Tîm Adnoddau Lleol Colwyn fel Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dementia ar sail rhannu swydd.
Dyma gyfle gwerth chweil i gyfrannu at ddatblygu dull aml-ddisgyblaethol, gan gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia i aros yn annibynnol a byw’n dda yn eu cartrefi eu hunain.
Fel rhan o dîm aml-ddisgyblaethol, byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddarparu cymorth cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu unigolion a’u gofalwyr i lywio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir ar yr adeg briodol.
Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain ac mewn lleoliadau cymunedol i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth, hyrwyddo llesiant, a chynnal ansawdd bywyd. Byddwch hefyd yn bwynt cyswllt allweddol i deuluoedd a gofalwyr.
Prif Gyfrifoldebau
* Darparu cymorth yn unol â chynlluniau gofal aml-ddisgyblaethol, gan gynnwys ymyriadau iechyd, gofal cymdeithasol ac adsefydlu
* Hyrwyddo annibyniaeth, hyder a llesiant unigolion sy’n byw gyda dementia
* Cefnogi unigolion a gofalwyr i gael mynediad at adnoddau cymunedol a gwasanaethau ataliol
* Ymgymryd â thasgau clinigol dirprwyedig megis:
* Monitro arwyddion hanfodol (e.e. pwysedd gwaed, pwls, tymheredd)
* Casglu a phrofi samplau wrin
* Cefnogi gofal iechyd y geg
* Cofnodi ac adrodd ar ganlyniadau yn unol â gofynion y sefydliad
* Gweithio’n gydweithredol gyda gweithwyr proffesiynol gan gynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a phartneriaid yn y sector gwirfoddol
Byddwch yn rhan o dîm sefydledig cymundedol a ailalluogi , gan weithio ar draws asiantaethau gan gynnwys Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol, Teleofal a sefydliadau gwirfoddol. Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar alluogi unigolion i adennill a chynnal eu hannibyniaeth wrth gryfhau cysylltiadau cymunedol.
Meini Prawf Hanfodol
* Cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda’r parodrwydd i gwblhau Lefel 3 o fewn 12 mis
* Profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol (profiad cymunedol yn ddymunol)
* Y gallu i ddilyn canllawiau, cyflawni tasgau dirprwyedig, ac ymateb yn gadarnhaol i adborth
* Addysg gyffredinol dda
* Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg gyda phobl hŷn am eu hiechyd a’u llesiant
* Y gallu i ysgrifennu yn Saesneg (sgiliau ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol)
Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth ystyrlon bob dydd o fewn amgylchedd cefnogol, aml-asiantaethol sy’n gwerthfawrogi tosturi, gwaith tîm, a datblygiad proffesiynol.
Os ydych yn dosturiol, rhagweithiol, ac wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia, hoffem glywed gennych.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lucinda White, Rheolwr (Lucinda.white@conwy.gov.uk / 01492576335)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.