Gweithiwr Chwarae (Sesiynol)
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
-
Sir Gaerfyrddin
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ydych chi'n angerddol dros chwarae a gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant?
Rydyn ni'n chwilio am unigolion brwdfrydig a gofalgar i ymuno â'n tîm ymroddedig fel Gweithwyr Chwarae (Sesiynol). Er bod hon yn rôl sesiynol heb oriau penodol, mae'n cynnig cyfleoedd rheolaidd i gyflenwi yn ystod absenoldeb staff ac o ran anghenion hyfforddi, gan ei wneud yn gam cyntaf gwych i fyd chwarae a chymorth i deuluoedd.
Fel Gweithiwr Chwarae (Sesiynol), byddwch yn:
• Cefnogi plant a theuluoedd yn ein Canolfannau Plant cynhwysol a chroesawgar.
• Helpu i greu sesiynau chwarae diogel a diddorol lle gall plant chwerthin, dysgu a thyfu gyda'i gilydd.
• Bod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gweithio i wella canlyniadau ar gyfer teuluoedd ledled Sir Gâr.
• Cael profiad gwerthfawr ac yn datblygu eich sgiliau o ran gwaith chwarae a chymorth i deuluoedd.
Mae chwarae'n hanfodol ar gyfer datblygiad plant a bydd eich rôl yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu mewn amgylchedd diogel a meithringar.
• Ydych chi'n gallu ein helpu ni i wneud i blentyn wenu wrth iddo ddarganfod rhywbeth newydd?
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein