Am Y Gwasanaeth
Mae pob un o'n swyddi rheng flaen yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £5000 y flwyddyn yn ychwanegol at y cyflog a nodir a delir yn fisol ar ben eich cyflogau.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'n rolau yma yng Nghaerdydd, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol gydag un o'n rheolwyr neu gyfle i glywed mwy am Dimau Gwaith Cymdeithasol Caerdydd, mae croeso i chi gysylltu â Laura White ar Laura.White3@cardiff.gov.uk
Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol?
Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth
erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf.
Cyflog Cystadleuol
Taliad Atodol ar sail y Farchnad
Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr
Tyfu a datblygu
Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF
Dull Ffocws ar y Teulu
Gweithio hybrid
Diwylliant gwaith hyblyg
Swm hael o wyliau blynyddol
Dewch i fod yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol ar ôl i chi orffen eich lleoliad olaf a thra’ch bod yn aros i gael eich cymhwyster, pam aros, ymgeisiwch nawr!
Ymgeisiwch ac os cyrhaeddwch y rhestr fer, byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad gyda'ch cais ac i baratoi cyn y cyfweliad.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni.
Ynglŷn â’r Gwasanaeth
- Yng Nghaerdydd rydym wedi datblygu rhaglen arloesol a fydd yn rhoi mentor i chi (y tu allan i'ch tîm gwaith) a fydd yn eich helpu i adnabod, datblygu a bodloni eich anghenion hyfforddiant parhaus a sicrhau eich bod yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, sef y cwrs atgyfnerthu yn y brifysgol.
- Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol yn Ne Cymru i ddarparu aseswyr ymarfer annibynnol i'ch helpu gyda’ch dilyniant drwy hyn, a sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i gwblhau'r cam hwn o'ch gyrfa gwaith cymdeithasol yn llwyddiannus.
- Mae gennym raglen hyfforddiant gynhwysfawr a fydd yn eich galluogi i gael mynediad at yr holl hyfforddiant gorfodol a grwpiau cymorth rheolaidd i sicrhau eich bod mewn cysylltiad â gweithwyr eraill sydd newydd gymhwyso!
- Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cael swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol.
- Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Ar ben hynny, Caerdydd hefyd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau.
Am Y Swydd
Ein Dull Gwaith Cymdeithasol
Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn ac wedi creu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel.
Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Mae'r swydd hon yn gofyn am
- Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol
- Gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
- Trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd o gar.
Y buddion a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro , sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
Yn weithredol o 1 Ebrill 2025, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn).
Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Rydym yn chwilio am y canlynol: Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol a Graddedigion Gwaith Cymdeithasol diweddar.
- Bydd angen i chi allu dangos sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno.
- Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Gallwn gynnig swyddi parhaol yn y timau canlynol:
Ardal Leol - Mae timau Diogelu a Phlant Sy’n Derbyn Gofal Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal leol ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y dwyrain, y Tyllgoed yn y gogledd a Bae Caerdydd yn y de gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os ydych wedi gwneud cais am y swydd hon o'r blaen o fewn 6 mis diwethaf ac nad oeddech yn llwyddiannus, gofynnwn yn garedig i chi beidio â chyflwyno cais arall ar hyn o bryd.
Bydd pob cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Nid ydym bellach yn cynnig cyfweliadau ar-lein. Os na allwch ddod i gyfweliad yn bersonol, cysylltwch â ni cyn cyflwyno'ch cais.
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn).
Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd pob cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Nid ydym bellach yn cynnig cyfweliadau ar-lein. Os na allwch ddod i gyfweliad yn bersonol, cysylltwch â ni cyn cyflwyno'ch cais.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau