Gweithiwr Cymdeithasol - Mabwysiadu
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £41,177 - £45,529 a year (PS1+2) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
Cytundeb parhaol 37 awr yr wythnos
L2 – L3 £41,177 - £45,529 y flwyddyn
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn un o bum grŵp cydweithredol sy’n ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn gyfrifol am recriwtio ac asesu mabwysiadwyr, cydweddu a lleoli plant gyda theuluoedd a darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer teuluoedd sy’n mabwysiadu.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig a brwdfrydig sydd â diddordeb mewn ymuno â’n gwasanaeth. Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am gwblhau asesiadau o ddarpar fabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant a lleoli'r plant, cwblhau adroddiadau cydweddu a chyflwyno adroddiadau darpar fabwysiadwyr i’r panel mabwysiadu.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau ysgrifennu asesiadau a dadansoddi rhagorol. Bydd ymrwymiad i weithio o fewn terfynau amser yn hollbwysig.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Stevie Thomas ar 0758544804 neu drwy e-bost: stevieleethomas@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau – i’w gadarnhau
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 09/12/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Arddangos y gwerthoedd ac ymddygiad disgwyliedig a osodwyd yng Nghod
Ymarfer Proffesiynol a gwerthoedd y Cyngor.
Ymroddiad i weithio mewn partneriaeth er mwyn cynllunio darpariaeth y
gwasanaeth.
Yn gallu gweithio dan bwysau.
Ymroddiad i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o safon uchel.
Ymroddiad i wella perfformiad trwy ddatblygiad personol.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol
Dyfarniad Cydgrynhoi / Dyfarniad ar ôl cymhwyso
Dau Ddyfarniad Arbenigol (neu brofiad cyfwerth fel y cafodd ei asesu yn erbyn
y meini prawf y cytunwyd arnyn nhw adeg penodi ac ymrwymiad i’w ennill o
fewn cyfnod rhesymol)
e.e. Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, AMHP, BIA (LPS –AMCP yn y dyfodol), Profiad o Ymarfer ym maes Gwaith Cymdeithasol (EPSW) / Ymarfer Pellach mewn Dyfarniadau Gwaith Cymdeithasol (SPSW), mathau hŷn o ddyfarniadau asesu sy’n gyfatebol i EPSW / SPSW, e.e. PQ1 a Chymhwyster llawn mewn Gwaith Cymdeithasol neu lwybr cymhwyster cyfatebol y cytunwyd arno (e.e. Cyflawni tystiolaeth gorau/Adran 47, Ymarfer Pellach – Ymddygiad Cymhleth), Dyfarniad Addysgwr Ymarfer (Ymarfer Athrawon oedd yr enw blaenorol) neu Ddyfarniad neu Gymhwyster Aseswr Cyfatebol neu ymroddiad i’w gyflawni o amserlen y cytunir arni gyda rheolwyr a’r Tîm Datblygu Gweithlu, yn unol â Datblygiad Gweithiwr Cymdeithasol a Fframwaith Datblygu Gyrfaoedd Cyngor Gwynedd.
Cofrestru a chadw cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal
Cymdeithasol Cymru
Dymunol
Gradd Meistr Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu datblygedig
Gallu ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau i safon uchel.
Gallu trefnu a blaenoriaethu gwaith.
Sgiliau profedig wrth asesu
Sgiliau profedig wrth ddiogelu
Gallu cynrychioli’r gwasanaeth mewn achosion llys, cadeirio cyfarfodydd gofal
a chefnogaeth, gofal iechyd parhaus a chyfarfodydd diogelu plant/oedolion/
cynadleddau achos a chynrychioli lles gorau’r oedolyn/plentyn.
Deall rôl, swyddogaeth a threfniadaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gallu meithrin perthnasau allweddol gyda thimau, gwasanaethau, asiantaethau
a sefydliadau eraill
Gallu gweithio’n annibynnol ac ar eich liwt eich hun.
Gallu teithio ar draws y Fwrdeistref Sirol (neu ranbarth os ydych chi’n gweithio
mewn tîm/gwasanaeth rhanbarthol) i weithio (e.e. mynychu
cyfarfodydd/ymweld ag unigolion neu safleoedd gwaith)
Gwybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ac ymrwymiad iddynt
Dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymreig
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu ar wybodaeth bresennol a diweddaraf o Ddeddfwriaeth Gofal
Cymdeithasol perthnasol ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant /Addysg.
Deddfwriaeth Llywodraeth Leol
Gwybodaeth a phrofiad o ymarfer pellach fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
•Rheoli llwyth achosion sydd wedi’i ddyrannu, sy’n cynnwys rheoli a phenderfyniadau sy’n ymwneud ag achosion, bydd rhai ohonynt yn gymhleth a/neu yn achosion risg uchel. Fe allai’r rhain fod yn gysylltiedig ag Amddiffyn Plant/ Gofal a Chefnogaeth/Colli Rhyddid/ achosion sy’n destun achos llys/presenoldeb ysgol, darparu cefnogaeth gweithiwr cymdeithasol i oedolion/oedolion mewn perygl a phlant/plant mewn perygl a’u teuluoedd a gofalwyr.
•Cynnal asesiadau, llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth a chynlluniau priodol eraill e.e. cynlluniau addysg a phenderfynu ar ddarpariaeth cefnogaeth allanol gan ddarparwyr priodol o fewn paramedrau’r gyllideb a ddyrannwyd. Gweithio mewn partneriaeth gyda phob gwasanaeth i sicrhau arfer a defnydd gorau o adnoddau.
•Addasu a defnyddio technegau Gweithiwr Cymdeithasol er mwyn sicrhau fod y dull yn bodloni anghenion unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, eu teuluoedd a gofalwyr sydd angen cymorth a gweithio’n annibynnol ac mewn partneriaeth gyda phobl eraill. Hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol drwy gymryd gweithred briodol wrth ddarparu cymorth, cefnogaeth a phenderfyniadau proffesiynol er mwyn sicrhau fod gan bob unigolyn sy’n cael ei atgyfeirio gynllun yn seiliedig ar asesiad o angen a bod cynlluniau o’r fath yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu cofnodi, eu hadolygu a'u haddasu fel y bo'n briodol.
•Gweithio er mwyn amddiffyn buddiannau, hyrwyddo a diogelu lles oedolion/oedolion mewn perygl a phlant/plant mewn perygl. Pan fo angen, gweithredu er mwyn diogelu Oedolion a Phlant sydd mewn perygl uniongyrchol a gwneud penderfyniadau er budd pennaf yr oedolyn/plentyn.
•Bydd angen i ddeiliaid sy’n cael eu dyrannu i Dîm sydd yn gweithredu system ar ddyletswydd weithio ar rota, ymateb ar unwaith ac yn effeithiol i achosion allai godi, deall y system gofnodi er mwyn adnabod yr achos a’r rhai allai/na allai fod yn rhan ohono yn cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill, cynnal asesiadau a chynllunio sy’n ymwneud ag ymateb i argyfwng uniongyrchol er mwyn sicrhau ymateb cyfrannol i’r sefyllfa, tra’n adnabod ac yn rheoli’r risgiau posibl.
•I fod yn fodel rôl a rhannu arferion da, cyngor a chymorth i alluogi cydweithwyr, gweithwyr cymdeithasol newydd/myfyrwyr i ddysgu, datblygu a symud ymlaen â’u gyrfaoedd o fewn y tîm. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio, asesu a mentora myfyrwyr gwaith cymdeithasol/ gweithwyr cymdeithasol sy’n astudio cymwysterau cymdeithasol eraill, cydweithio ar achosion a chefnogi proses sicrhau ansawdd y gwasanaeth drwy archwilio a samplau o ffeiliau ac ymarferion.
•Bod yn gyfrifol am benderfyniadau o ran ‘budd pennaf’ unigolyn, yn cynnwys cynnal asesiadau budd pennaf (Colli Rhyddid/asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, paratoi adroddiadau llys a mynychu'r llys pan fod angen ochr yn ochr â’r Rheolwr Tîm, Rheolwyr Tîm Cynorthwyol, bod yn gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd gofal a chefnogaeth, gofal iechyd parhaus neu ddiogelu.
•Er mwyn gallu bod yn weithiwr achos gwaith cymdeithasol arbenigol mewn dau o’r meysydd canlynol:
oTrefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (Asesydd Lles Gorau)/ Trefniadau Diogelu Rhyddid (Gweithiwr Galluedd Meddyliol Proffesiynol Cymeradwy – AMCP pan fydd yn cael ei weithredu)
oGIMPC – Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy
oAthro Ymarfer/Addysgwr Ymarfer
oArbenigedd sy’n ymwneud â phlant, e.e. cyflawni Tystiolaeth Gorau, Diogelwch Uwch/Adran 47,
• (Fe ellir ychwanegu arbenigeddau eraill dros amser, yn amodol ar anghenion y Gwasanaeth ac fel y cytunwyd gyda’r Prif Swyddog - Gofal Cymdeithasol)
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bod yn gyfrifol am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol a ddyrannwyd i chi/gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso er mwyn ymgymryd â goruchwylio, asesu gwaith a mentora i gefnogi a'u tywys i gynorthwyo â datblygiad eu hymarfer.
•Fel rhan o gynnal asesiad o anghenion a datblygu cynlluniau gofal a chefnogaeth, bydd angen i ddeiliad y swydd adnabod ymyraethau priodol ar gyfer yr unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, eu teuluoedd a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, a fydd yn cynnwys gosod y gweithredoedd y mae angen i weithwyr proffesiynol eraill/cydweithwyr (e.e. cynghorwyr cyswllt cyntaf, gweithwyr cefnogi teuluoedd, cynorthwywyr personol ac ati), ymgymryd â nhw fel rhan o gyflwyno’r cynlluniau gofal a chefnogi. Bydd deiliad y swydd yn parhau i fod yn gyfrifol am waith mae pobl eraill yn ei wneud, felly mae’n rhaid iddynt werthuso’r cynllun gofal a chymorth a chyflwyno ymyraethau er mwyn penderfynu a ydi gofynion y cynlluniau gofal a chymorth wedi cael eu bodloni, a oes angen gwelliannau ar gyfer ymyraethau neu ymyraethau diwygiedig newydd.
•Yn gyfrifol am sicrhau fod ffeiliau achosion a phenderfyniadau’n cael eu cofnodi’n gywir ac ar amser, gallu cael mynediad at gofnodion cyfrinachol/sensitif o fewn gofynion Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
•Fe ellir anfon/gellir gofyn i Weithwyr Cymdeithasol i weithio yn unrhyw un o dimau gwaith cymdeithasol yn y Cyngor, sy’n gymesur â sgiliau a phrofiad perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys eu dyrannu i dimau eraill, er mwyn ennill gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd arbenigol ymhellach, er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth weithredu’n hyblyg i fodloni galw ar y gwasanaeth.
•Wrth ymgymryd â’r swydd, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddyrannu offer i gefnogi unigolyn, fe allant ddelio â’u heiddo personol, arian parod neu eitemau eraill a bydd angen iddynt ddiogelu hyn.
•Bydd disgwyl iddynt weithio mewn modd hyblyg gan groesawu dulliau modern y Cyngor o weithio, gan ddefnyddio technoleg a systemau.
Prif ddyletswyddau
•I ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol profiadol a phroffesiynol i oedolion/plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr drwy gynnal asesiadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau er mwyn adnabod yr hyn maent yn gymwys amdano a llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n gwneud y mwyaf o annibyniaeth a photensial lle y bo’n bosibl. Monitro a gwerthuso cynlluniau gofal a chefnogaeth a gwirio’r safonau gofal sydd wedi’u manylu o fewn cynlluniau gofal a chefnogaeth ac yn unol â phrosesau awdurdod lleol a gofynion cyfreithiol.
•Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol trwy waith achos uniongyrchol, goruchwyliaeth, gyda'r nod bod anghenion yr unigolion yn cael eu bodloni. Gweithio gydag asiantaethau a sefydliadu eraill i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn cael eu darparu a sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion. Gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau eraill i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu a sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer unigion.
•Sicrhau bod asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu pob llwyth achosion a phenderfyniadau ac ymarfer yn cyrraedd safonau disgwyliedig o wasanaeth, yn unol â therfynau amser, protocolau sefydledig, polisïau a gweithdrefnau a’u bod yn cydymffurfio a deddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion cywir, amserol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wneud penderfyniadau a dogfennau eraill, a chyrraedd terfynau amser i adolygu yn unol â fframwaith sicrhau ansawdd y gwasanaeth, gweithdrefnau’r Cyngor, canllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth.
•Asesu, adnabod, adrodd ar Oedolyn/Plentyn mewn perygl yn unol â Gweithdrefnau Diogelu, yn cynnwys cynnal ymchwiliadau, a chynnal trafodaethau strategaeth gyda'r Heddlu (os yw'n briodol).
•Ochr yn ochr â’r Rheolwr Tîm/ Rheolwr Tîm Cynorthwyol, gweithredu fel cadeirydd annibynnol cyfarfodydd gofal iechyd parhaus, cyfarfodydd gofal a chefnogaeth, cyfarfodydd diogelu oedolion, cyfarfodydd presenoldeb ysgol a’u cynadleddau adolygu, sicrhau eu bod wedi eu cofnodi’n gywir a bod camau gweithredu wedi’u nodi’n glir.
•Hyrwyddo unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr sydd angen cefnogaeth i gymryd rhan mewn cynllunio asesiadau, eu gweithredu a’u hadolygu, a chynnig eiriolaeth iddynt pan fo’n briodol.
•Sicrhau fod pob ymarfer yn eirioli ar ran yr unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, ac yn herio unrhyw wahaniaethu, anghydraddoldeb neu anfantais posibl sy’n deillio o ymarfer/penderfyniad pobl eraill (y tu mewn a thu allan i’r Cyngor) i sicrhau fod anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni. Bydd hyn yn cynnwys mynychu gwrandawiadau llys a darparu tystiolaeth ac adroddiadau ac eirioli ar eu rhan mewn cyfarfodydd pwysig.
•Defnyddio a manteisio ar y deunyddiau ac adnoddau ariannol sydd ar gael i unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr sydd angen cefnogaeth o bob ffynhonnell bosibl a sicrhau pecynnau gofal gwerth am arian.
•Monitro a gwirio safonau yr ymarfer i gefnogi trefniadau sicrhau ansawdd, gan archwilio a samplau o ffeiliau ac ymarfer, dangosyddion perfformiad a goruchwyliaeth broffesiynol trwy gydweithio ar achosion, cynorthwyo i ddatblygu safonau ansawdd gofynnol lleol a gwella ansawdd ac amseroldeb gwasanaethau gofal cymdeithasol.
•Mentora gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn ystod tair blynedd cyntaf eu hymarfer, yn cynnwys cynorthwyo gyda'r Rhaglen Ymsefydlu, cefnogaeth gan gyfoedion, mentora, hyrwyddo datblygiad proffesiynol, eu tywys a sicrhau eu bod yn gwella eu hymarfer, ac yn hwyluso trafodaeth fyfyriol am yr achos a sicrhau bod hyn yn cael ei gofnodi’n ffurfiol, gyda deiliad y swydd neu pan fyddant yn ei drafod gyda'u rheolwr.
•Hyfforddi, mentora ac asesu myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol/gweithwyr cymdeithasol sy'n astudio cymwysterau eraill gweithiwr cymdeithasol yn rheolaidd (e.e. AMPH AMPC), ar gyfer lleoliadau gwaith, rhaglenni i hyfforddeion a phrofiad gwaith.
•Cymryd rhan fel rhan o'r tîm ehangach i sicrhau fod y gwasanaeth yn cynnal ymarfer myfyriol yn gyson ac yn cyfrannu syniadau ar gyfer gwelliannau gwasanaeth parhaus. Defnyddio templedi dogfennau cofnodi a myfyrio yn barhaus er mwyn gwella ymarfer unigol ac ymgysylltu’n llwyr mewn trafodaethau myfyrio ar achosion gyda Rheolwyr.
•Arddangos y gwerthoedd craidd ac ymddygiad a ddisgwylir gan weithwyr cymdeithasol a gweithio o fewn y safonau a chydymffurfio â nhw wrth berfformio pob dyletswydd fel yr amlinellwyd gan y corff rheoleiddio a’i God Ymarfer Proffesiynol.
•Arbenigo mewn dau faes o gyfrifoldeb h.y. Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, Asesydd Lles Gorau, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, Gweithiwr Galluedd Meddyliol Proffesiynol Cymeradwy (AMCP), Addysgwr Ymarfer/Arbenigeddau Plant (Cyflawni tystiolaeth gorau, Adran 47), ymarfer pellach (Ymddygiad cymhleth) ac ati, a chymryd rhan mewn unrhyw rota/tîm er mwyn ymgymryd â'r asesiadau arbenigol yma.
•Dilyn yr ymchwil, datblygiad proffesiynol parhaus perthnasol sydd ei angen, dogfennau arfer a gwasanaeth gorau / canllawiau rheoleiddio mewn perthynas â diogelu, rheoli risg, Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, Asesydd Lles Gorau, Iechyd Meddwl a datblygiadau eraill yn ymarferol, bod â dealltwriaeth ddiweddaraf o'r diwylliant ac anghenion iechyd a chymdeithasol (ac Addysg) sy’n newid yn lleol a manteisio ar eu datblygiad eu hunain i ddylanwadu ar ymarferion a gwasanaeth presennol ac yn y dyfodol yn unol â Chanllawiau a Deddfwriaeth a chadw cofrestriad Gweithiwr Cymdeithasol.
•Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r Tîm, y Gwasanaeth a’r Awdurdod Lleol, gydag ystyriaeth benodol i Ddiogelu, Llywodraethu, Iechyd a Diogelwch, gweithdrefnau gweithio ar eich pen eich hun a pholisïau a gweithdrefnau eraill y gwasanaeth neu’r gweithlu.
•Mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio’n ofalus bob amser, yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch a Thân y Cyngor, yn ogystal â’r system a’r gweithdrefnau rheoli diogelwch, gan gynnwys bod yn gyfrifol am eu diogelwch personol eu hunain. Mae hyn yn benodol yn cynnwys mynychu hyfforddiant dan gyfarwyddyd ac amlygu unrhyw bryderon i'w rheolwr neu gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch undeb llafur ar unwaith.
Dyletswyddau Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Gall bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd, o dro i dro, fynychu cyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy’n ofynnol yn sgîl ei anghenion hyfforddiant ac anghenion y Gwasanaeth.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Datganiad Cyd-destun
•Darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol i oedolion/oedolion mewn perygl a phlant/plant mewn perygl, eu teuluoedd a gofalwyr drwy gynnal asesiadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau er mwyn adnabod anghenion maent yn gymwys iddynt a llunio cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth.
•Gweithio o fewn sefydliadau sefydledig o fewn y Cyngor a Sefydliadau allanol os yw’n briodol (e.e. Iechyd/yr Heddlu/Ysgolion) a phrotocolau proffesiynol, polisïau a gweithdrefnau ac yn unol â deddfwriaeth.
•Cefnogi’r rheolwr tîm i sicrhau ansawdd a chefnogi gwella proses a gwasanaethau o fewn y tîm/gwasanaeth ehangach.
•Rhaid gallu rheoli gwrthdaro ac achosion yn annibynnol a bod yn gyfrifol am eu penderfyniadau eu hunain, o fewn fframwaith o oruchwyliaeth reolaidd.
•Eirioli ar ran yr unigolion/pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, eu teuluoedd a gofalwyr sydd angen cefnogaeth drwy herio gwahaniaethu a barnu a chynrychioli lles yr unigolion a’r cyngor tra’n rhoi cyngor ar achoson llys, cyflwyno adroddiadau a rhoi tystiolaeth yn y llys.
•Gweithio gyda chydweithwyr eraill, gwasanaethau’r cyngor, asiantaethau a sefydliadau eraill i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu a sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer unigion.
•Bydd angen iddynt gynnal sgyrsiau “beth sy’n bwysig” mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys cynnal asesiadau arbenigol, er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau budd pennaf ar gyfer pob gwaith achos sydd wedi cael ei gynnal.
•Bydd angen iddynt arbenigo mewn o leiaf dau faes sy’n angenrheidiol ar gyfer swydd gweithiwr cymdeithasol arbenigol trwy ennill Dyfarniadau Addysgwyr Ymarfer a/neu Arbenigol fel yr amlinellir ym Manylion am yr Unigolyn. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gwblhau datblygiad proffesiynol parhaus at safon disgwyliedig er mwyn parhau i ail-gofrestru ac i fodloni gofynion eu swydd.
•Bydd deiliad y swydd yn cael ei h/annog i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy’n galluogi iddynt ennill cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol cysylltiedig o fewn terfynau amser penodol.
•Gweithredu a darparu gwasanaethau/dyletswyddau mewn dull fodern, drwy groesawu a defnyddio technoleg sydd eisoes ar gael a thechnoleg newydd er mwyn sicrhau fod ymarfer/y gwasanaeth yn gweithredu o fewn dulliau modern o weithio gan ddefnyddio dulliau darparu amgen sy’n addas i unigolion/pobl sydd angen gofal a chymorth, eu teuluoedd a gofalwyr sydd angen anghenion cefnogi, galluogi sianeli mwy amrywiol o gyfathrebu ac ymgysylltu, a chyflwyno gwasanaethau mewn modd effeithlon o ran amser ac adnoddau.
•Mae’n bosibl y bydd deiliad y swydd yn dod i gyswllt rheolaidd â gwybodaeth/deunyddiau all beri gofid mewn cysylltiad â honiadau o gamdriniaeth yn sgil natur y materion diogelu sy’n deillio o waith cymdeithasol, yn cynnwys cyswllt uniongyrchol gydag unigolion a/neu eu teuluoedd. Mae cefnogaeth gan reolwyr a chymheiriaid yn cael ei ddarparu i weithwyr sy’n cael eu heffeithio yn yr amgylchiadau hyn.
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein