*** Mae'r swydd wag hon ond ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys staff asiantaeth sy'n gweithio yn y Cyngor ar hyn o bryd. ***
Rydyn ni'n recriwtio Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 1x 18 Awr / 1x 19.5 Awr
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser
Lleoliad: Cartref Seibiant Montclaire
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13,917.41 - £14,605.78 (18 awr) / £15,077.19 - £15,822.93 (19.5 awr) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd rhywun?
Rydyn ni'n chwilio am unigolion ymroddedig a thosturiol i lenwi dwy swydd wag gyffrous:
- Gweithiwr Cymorth gyda'r Nos – 18 awr yr wythnos
- Gweithiwr Cymorth – 19.5 awr yr wythnos yn cwmpasu cymysgedd o sifftiau yn ystod dydd, gyda'r nos, preswyl a dros nos.
Rydyn ni'n chwilio am Weithwyr Gofal Cymdeithasol gofalgar ac ymroddedig i gynorthwyo unigolion ag anableddau dysgu i fyw'n annibynnol, cyflawni eu nodau, a chymryd rhan yn eu cymuned leol.
Mae'r rôl werth chweil hon yn cynnwys darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person a hyrwyddo dewis, urddas ac annibyniaeth. Mae trwydded yrru yn hanfodol, gan y bydd yn ofynnol i chi gynorthwyo unigolion drwy ddefnyddio eich cerbyd eich hun i gael mynediad at weithgareddau, apwyntiadau a chyfleoedd cymdeithasol.
Os ydych chi'n dosturiol, yn ddibynadwy, ac yn ymrwymedig i rymuso eraill, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Y gallu i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Dealltwriaeth o egwyddorion sydd wrth wraidd amgylchedd gofal o safon h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd bob dydd a sgiliau cymdeithasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James ar 07873702393 neu ebost Jamesn2@Caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae penodiad i'r swydd hon yn amodol ar yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a pharhau i fod wedi’i gofrestru fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yn unol â'r gofynion rheoleiddiol perthnasol.
Penderfynir bod yn rhaid i'r deiliad swydd llwyddiannus fod yn fenyw. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG