32 awr yr wythnos
Rhan amser
Gweithiwr Gofal Plant Preswyl ar gyfer Cartrefi Preswyl Plant Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
A ydych wedi ystyried gyrfa mewn lleoliad gofal? A hoffech wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant/pobl ifanc?
Os felly, yna mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae angen ein cymorth arnynt. Rydym yn parhau i ehangu ar ein darpariaeth drwy ychwanegu gwasanaeth newydd.
Mae Tŷ Hillsboro yn darparu lleoliadau tymor byr i dymor canolig i blant/pobl ifanc yn yr ystod oedran 8 i 25 oed (ar adeg eu derbyn) nad ydynt am resymau amrywiol yn gallu byw gyda'u teulu agos neu estynedig eu hunain.
Mae'r cartref yn ymrwymedig i gynnig amgylchedd ysgogol, diogel, gofalgar sy'n hyrwyddo dull cyfannol ar gyfer pob agwedd ar fywyd y plentyn/person ifanc.
A chithau'n Weithiwr Preswyl Plant, byddwch wedi'ch lleoli yn Nhŷ Hillsboro gyda'r bwriad o gefnogi mewn gwasanaethau eraill os oes angen. Mae hwn yn gyfle rhagorol i wneud gwahaniaeth a darperir hyfforddiant. Mae angen i chi fod yn barod i gwblhau'r cyfnod sefydlu gofynnol o fewn y chwe mis cyntaf er mwyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chwblhau'r cymhwyster gofynnol ar gyfer y rôl o fewn amserlen y cytunwyd arni fel y nodir gan fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eirioli dros blant a'u cefnogi plant yn eu bywydau o ddydd i ddydd, mynd yn gwmni i blant a'u cefnogi ar apwyntiadau iechyd, coginio, cefnogi plant i reoli eu teimladau, gwneud gweithgareddau llawn hwyl gyda phlant, cofnodi gwybodaeth ac adrodd amdani a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo datblygiad y plant yn ein gofal.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? Mae CBSP yn cynnig cyflogaeth sefydlog gyda'r gallu i symud ymlaen a chynllun pensiwn. A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol a chefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Cysgu i Mewn a Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person