Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn Nhîm Gofal Cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Rydyn ni’n rhan o Wasanaeth Ailalluogi Integredig (AI) Torfaen ac rydyn ni’n darparu gwasanaethau i unigolion sy'n byw yn y gymuned i'w cefnogi i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi eu hunain neu yn ystod cyfnodau aros i gael cymorth ail-alluogi yn Nhŷ Glas y Dorlan.
Mae’r gwasanaeth AI yn gweithredu o Dŷ Glas y Dorlan. Mae’n cynnig gwasanaeth hyblyg ac ymatebol sy'n rhoi cymorth ymarferol, gofal personol a chymorth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar alluogi unigolion ar ôl salwch a/neu gyfnod yn yr ysbyty, i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar 'yr hyn sy'n bwysig' iddynt a'u canlyniadau personol.
Disgwylir i'n Gweithwyr Cymorth Galluogi weithio ledled bwrdeistref Torfaen (Gogledd a De) neu yn Nhŷ Glas y Dorlan .
Byddwch yn gweithio pedwar diwrnod allan o saith ar amserlen wedi'i chynllunio, gan weithio cymysgedd o ddyddiau a nosweithiau neu nosweithiau yn unig. Yn gyfnewid, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach ac yn ennill profiad gwerthfawr yn y maes Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â bod yn rhan o wasanaeth arloesol.
Ymhlith y manteision a geir wrth weithio gyda ni mae:-
- 25% ychwanegol am weithio ar benwythnos , 15% ychwanegol am weithio gyda’r nos ac yn ystod gwyliau banc
- 34 diwrnod o wyliau blynyddol (Gan gynnwys hawl i wyliau banc)
- Lwfans teithio o 45c y filltir ac amser teithio â thâl
- Cynllun pensiwn
- Gwiriadau DBS am ddim, gwisgoedd ac offer PPE.
- Ffôn symudol / amserlenni electronig
Gofynion:-
- Bydd gennych ddealltwriaeth sylfaenol am ofal yn y gymuned a phrofiad o ofalu am unigolion mewn rôl â thâl neu’n wirfoddol.
- Rhaid i chi fod yn gyfforddus yn gweithio ar eich pen eich hun, rhaid bod gennych agwedd hyblyg a’r gallu i gynnal perthynas waith dda gyda'r unigolion y byddwch chi'n eu cefnogi. Mae brwdfrydedd a ffordd o alluogi a hyrwyddo annibyniaeth yn bwysig.
- Mae trwydded yrru gyfredol y DU, yswiriant busnes a mynediad at gerbyd yn hanfodol.
- Dylai fod gennych gymhwyster NVQ lefel II mewn Gofal – neu dylech fod yn barod i weithio at FfCCh Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn dod a nhw ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn Arweinydd sy'n Hyderus o ran Anabledd cofrestredig ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.