Bydd taliad atodol ar sail y farchnad yn berthnasol i’r swydd hon – i’w drafod yn ystod y cyfweliad
Lleoliad - Aberhonddu neu Ystradgynlais
Am y rôl:
Mae'r Tîm Gofal a Chymorth yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn dilyn Asesiad Gwaith Cymdeithasol, lle mae cymorth a goruchwyliaeth barhaus gan Gwasanaethau Plant wedi'i nodi. Mae hyn yn cynnwys achosion sy'n ymwneud â phlant sydd angen eu hamddiffyn, gofal a chymorth, yn ogystal â theuluoedd sy'n ymwneud â'r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG) neu sy'n rhan o achos llys. Daw'r tîm ag ystod amrywiol o sgiliau ynghyd, gyda Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Lles profiadol yn gweithio ar y cyd. Cefnogir gweithrediadau dydd i ddydd yn effeithiol gan Gydlynwyr Tîm, sy'n cynorthwyo gyda thasgau fel trefnu a gwneud cofnodion cyfarfodydd, paratoi cronolegau, a darparu cymorth busnes cyffredinol.
Rydym wedi ymrwymo i feithrin twf proffesiynol a datblygiad gyrfa pob aelod o'r tîm.
Amdanoch chi:
• Byddwch yn darparu cefnogaeth effeithiol i blant a theuluoedd, gan dynnu ar eich brwdfrydedd a'ch cymhelliant i helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
• Byddwch yn dangos sgiliau cyfathrebu hyderus a medrus, gan gynnal
ymgysylltiad â theuluoedd hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol neu risg uchel, gan gynnwys y rhai sydd ag elfen elyniaethus.
• Byddwch yn cymryd agwedd greadigol wrth weithio gyda phlant, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer i'w helpu i fynegi eu dymuniadau a'u teimladau.
• Byddwch yn gymwys yn y gwaith o gadw cofnodion cyfredol ac ysgrifennu adroddiadau.
• Byddwch angen dealltwriaeth eang a manwl o'r risgiau y gall plant eu hwynebu, ynghyd â'r sgiliau i asesu a rheoli'r risgiau hynny, gan sicrhau ymyriadau amserol a chymesur. Byddwch hefyd yn cefnogi datblygiad perthnasoedd teuluol ac yn helpu i nodi rhwydweithiau cymorth.
• Byddwch yn mabwysiadu dull ymyrraeth sy'n seiliedig ar gryfderau, ac mae profiad o weithredu'r model hwn yn ddymunol.
Eich dyletswyddau:
• Dangos ymrwymiad cryf i ymarfer gwaith cymdeithasol o ansawdd uchel, gan sicrhau y caiff cyfrifoldebau statudol eu bodloni ac y caiff polisïau a gweithdrefnau sefydliadol eu dilyn.
• Cynnal llwyth bychan o achosion, gan ganolbwyntio ar achosion cymhleth lle mae asesu a rheoli risg yn allweddol. Cefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu galluoedd rheoli risg eu hunain.
• Ymgymryd â chyfrifoldebau dirprwyedig gan y Rheolwr Tîm, gan gynnwys goruchwylio staff a sicrhau ansawdd asesiadau a chynlluniau gofal.
• Arwain ar ddatblygiad proffesiynol o fewn y tîm trwy hwyluso sesiynau ymarfer adlewyrchol a rhannu gwybodaeth mewn meysydd ble nodwyd angen neu ddiddordeb.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
Emma Wright / Jemma Conroy
recruitment@powys.gov.uk
Mae’n ofynnol o dan y swydd hon am destun Gwiriad Manwl y DBS