Am Y Gwasanaeth
Mae pob un o'n swyddi rheng flaen yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £5000 y flwyddyn yn ychwanegol at y cyflog a nodir a delir yn fisol ar ben eich cyflogau.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'n rolau yma yng Nghaerdydd, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol gydag un o'n rheolwyr neu gyfle i glywed mwy am Dimau Gwaith Cymdeithasol Caerdydd, mae croeso i chi gysylltu â Laura White ar Laura.White3@cardiff.gov.uk
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.
Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cynyddu i swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol.
Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn a chreu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain a hi yw’r un gyntaf yn y DU i chael ei datgan yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF sy’n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a’n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Am Y Swydd
Manteision a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl.
- Llwyth achos cyfartalog o 20
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clod Caerdydd.
Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol profiadol. Mae'n rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar brofiad cadarn o ddiogelu ac amddiffyn plant a bod yn hyderus o ran achosion llys. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio dan bwysau. Oherwydd natur y rôl, mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad ôl-gymhwyso rheng flaen mewn gwasanaethau amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG.
Rydym hefyd yn hysbysebu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Gradd 7. Er eich bod yn gwneud cais am y rôl hon, byddwn hefyd yn eich ystyried ar gyfer y swydd Gradd 7 a'r cyflog cysylltiedig os byddwn yn credu, drwy'r broses gyfweld, fod eich sgiliau a'ch profiad yn fwy addas i'r rôl honno.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Laura.White3@cardiff.gov.uk drefnu amser cyfleus i bawb.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau