Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Un Pwynt Mynediad (Plant)
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £46,142 - £49,282 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
- 37 awr yr wythnosMae'r Tîm Un Pwynt Mynediad yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf, gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd a hefyd i ymchwilio i bryderon diogelu.
Mae'r Tîm Un Pwynt Mynediad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol ynghyd i hwyluso rhannu gwybodaeth gynnar i gefnogi teuluoedd a diogelu plant. Cyflawnir hyn drwy gasglu gwybodaeth gan wahanol asiantaethau i lywio ymyriadau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant. Bydd Rheolwr Tîm Cynorthwyol yn yr UPM yn rheoli ein mewnflwch yn bennaf, gan wneud penderfyniadau ar atgyfeiriadau o ran ymateb cychwynnol yr awdurdodau lleol, byddant yn cefnogi ac yn goruchwylio gweithwyr cymdeithasol, yn adolygu achosion ac yn gwneud penderfyniadau a oes angen dyraniad ac yn mynychu cyfarfodydd gan gynnwys Trafodaethau Strategaeth a Chyfarfodydd Strategaeth. Mae gwybodaeth am y gyfraith yng Nghymru, gan gynnwys Adran 5, yn hanfodol.Bydd angen i’r ymgeisydd feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol I wneud cais am y rol honMae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein