Ynglŷn â'r rôl
Mae swydd y Swyddog Monitro Sicrhau Ansawdd a Gwella Gwasanaethau yn cynnig cyfle cyffrous i weithio mewn Tîm Sicrhau Ansawdd brwdfrydig ac ymroddedig yn y Gwasanaeth Diogelu yng Nghyngor Sir Ceredigion.
Mae’r Awdurdod Lleol yn datblygu Model Llesiant Gydol Oes ar gyfer y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Eich rôl chi fydd gwneud gwaith penodol gyda gwasanaethau a gomisiynir ar gyfer plant ac oedolion, a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bod y gofal a’r cymorth y mae pobl yn ei gael o fewn gwasanaethau gan ddarparwyr a gomisiynir o’r ansawdd uchaf ac yn bodloni anghenion plant ac oedolion, gan sicrhau eu bod mor annibynnol ag y bo modd a chan wella ansawdd eu bywyd gymaint ag y bo modd.
Byddwch yn gyfrifol am gynnal ymweliadau sicrhau ansawdd/monitro contractau gyda’r holl ddarparwyr a gomisiynir (yn y sir ac mewn unrhyw leoliadau a gomisiynir y tu allan i Geredigion) a darpariaeth fewnol, yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn cael eu darparu yn unol â Rheoliadau R.I.S.C.A ac yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y darparwr yn cydymffurfio â’u trefniadau cytundebol ac yn darparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf o ran safon y gofal ar gyfer plant ac oedolion. Yn dilyn pob ymweliad, byddech yn hysbysu’r darparwyr o’r cryfderau sy’n amlwg yn y gwasanaeth a ddarparir, a hefyd, byddech yn hysbysu’r darparwyr o’r meysydd lle y ceir pryder/risg, ac y mae angen rhoi sylw iddynt, a byddwch yn gwneud argymhellion am y ffordd y gallai’r gwasanaeth wella a byddwch yn gweithio gyda darparwr i’w cynorthwyo i wella eu gwasanaeth.
Byddai sicrhau bod lleisiau plant, oedolion a’u teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau yr ydych chi’n eu monitro yn cael eu clywed trwy gydol y broses fonitro, yn rhan hanfodol o’ch rôl, a bod eu safbwyntiau nhw yn helpu i gryfhau ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu cael.
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymwreiddio’r Fframwaith Arfer Llesiant ac Arwyddion Diogelwch ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac mewn hyfforddi ein staff i nodi a rheoli risg niwed mewn ffordd ddiogel, gan ddatblygu cydnerthedd pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Byddech yn rhan o ffordd o weithio ar ffurf Partneriaeth Ranbarthol a lleol aml-asiantaeth ymroddedig a chadarn sy’n ceisio cyflawni’r canlyniadau o ansawdd gorau i blant, oedolion a’u teuluoedd, gyda’ch gilydd.
Pryd bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg. Fodd bynnag, byddai ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael eu cynorthwyo’n llawn i gyflawni’r safon ddymunol cyn pen 2 flynedd o gael eu penodi.
Ein cynnig i chi:
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrediad o fuddion i chi fel cyflogai, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfrannu i bensiwn hael. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i gyflogeion yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Sharon.Bowen@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.