Uwch Swyddog Prosiectau a Gwybodaeth Blynyddoedd Cynnar
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £41,177 - £43,149 a year (PS1) y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sioned Ann Owen ar 01286678824 neu drwy e-bost SionedOwen@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 02/12/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Un sy’n rhoi sylw i fanylion
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm
Un sy’n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol
Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a’r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
Un sy’n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster lefel gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol ym maes rheoli prosiectau, gweinyddiaeth busnes, rheoli gwybodaeth, dadansoddi data neu faes perthnasol.
DYMUNOL
Cymhwyster Rheoli Prosiectau (e.e. PRINCE2 Practitioner, APM PMQ, AgilePM®, MSP neu gyfwerth).
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o oruchwylio staff neu arwain timau prosiect.
Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad
Cymhleth
Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth
Profiad o weithio a chyfathrebu gyda nifer o fudd-ddeiliaid
Profiad o weithio ar becynnau gwaith cymhleth
Profiad o allu ymdopi a nifer o dasgau pwysig yr un pryd
Profiad o greu ystod eang o ddogfennaeth amrywiol o safon.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth
Y gallu i gynllunio, monitro, adrodd, trefnu, cynllunio a chyflwyno’n effeithiol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol
Y gallu i baratoi adroddiadau, cyflwyniadau a deunydd ysgrifenedig addas i gyd-fynd â gofynion y swydd
Gallu llunio achosion busnes, briffiau ac adroddiadau strategol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Dealltwriaeth gadarn o egwyddorion a methodolegau rheoli prosiectau a dulliau adnabod a rheoli risgiau
Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol
Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel iawn gyda phrofiad o ddefnyddio
gwahanol becynnau meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word,
Outlook, Excel, PowerPoint, Teams)
Dealltwriaeth o ddiogelu data, llywodraethu gwybodaeth a gofynion cyfrinachedd.
Gwybodaeth am brosesau monitro ac adrodd perfformiad.
Y gallu i gyfieithu dogfennau
Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
Profiad o roi cymorth gydag achosion busnes
Trwydded yrru
DYMUNOL
Gwybodaeth am y maes blynyddoedd cynnar
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein