Rhif swydd LEICY100011.4 - Uwch Ymarferydd Dechrau'n Deg
Cymwysedig Lefel 5 (Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, NVQ neu debyg) yn unol â'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau
Menter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Dechrau'n Deg, gyda'r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er gwell i gyfleoedd bywyd plant 0-3 oed, er mwyn sicrhau eu bod yn cael dechrau da mewn bywyd.
Mae Tîm Dechrau'n Deg Casnewydd yn dymuno penodi Uwch Ymarferydd brwdfrydig a dibynadwy i weithio mewn partneriaeth ag Ymarferwyr, staff allweddol, rhieni a gofalwyr i hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd y rhaglen Dechrau'n Deg. Bydd y swyddi yn 35 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener) 8yb-4yp, gall yr oriau amrywio i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd gan yr ymgeiswyr sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i ofal a datblygiad plant ifanc iawn. Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar lythrennedd safonol lefel 2 o leiaf (caiff ei brofi yn y broses gyfweld drwy asesiad byr, os oes angen)
Mae cymhwyster Gofal Plant perthnasol fel Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 5, profiad cyfredol sylweddol o weithio mewn Lleoliadau Gofal Plant ac addysg yn ogystal â gyda phlant dan 2 oed/grwpiau chwarae/meithrin a gwybodaeth drylwyr o ddatblygiad plant, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, Polisïau Ymarfer a Gofal Plant Arolygiaeth Gofal Cymru yn hanfodol. Mae angen profiad neu gymwysterau perthnasol mewn TG fel Microsoft Word ac Excel er mwyn cwblhau'r gwaith papur gofynnol a chynnal arsylwadau/recordiad o ddatblygiad pob plentyn ac ar gyfer rheoli cyllideb. Mae profiad o leoliadau Dechrau'n Deg neu debyg yn ddymunol. Profiad o reoli tîm bach yn hanfodol.
Oherwydd natur y rôl, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gymryd gwyliau blynyddol ar adegau sy'n cyd-fynd â chaeadau Dechrau'n Deg.
Bydd y broses benodi yn cynnwys cyfweliad gydag uwch aelodau o'r Tîm Dechrau'n Deg a thasg senario ar y diwrnod.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Brogan, Arweinydd Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar kate.brogan@newport.gov.uk
Dyddiad Cau: 05.11.2026
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae'n amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd