Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Wrth Gefn - Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Dyddiad cau 29/05/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£12.84 - £12.84 per hour y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn rwydwaith o glybiau rhan-amser neu ddarpariaeth gymunedol sy'n darparu gwasanaethau ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed sy'n gweithredu'n bennaf rhwng mis Medi a diwedd mis Mawrth.

Bydd y contract sylfaenol am 26 wythnos rhwng mis Medi a diwedd mis Mawrth. Gellir cynnig estyniad pellach yn ystod cyfnod yr haf, i weithio ar raglenni'r haf yn dibynnu ar angen lleol, er nad yw hyn wedi'i warantu. Bydd y gweithiwr yn cael ei gyflogi ar delerau ac amodau'r JNC.


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.