Ymarferydd Myfyriol
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £37,563 - £41,177 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Nod y Prosiect Adlewyrchu yw cyflwyno rhaglen ddwys sy’n canolbwyntio ar nodi a mynd i’r afael ag anghenion carfan o ferched sydd wedi cael plant wedi’u cymryd oddi arnynt fwy nag unwaith trwy achosion gofal ac sy’n debygol o gael rhagor o blant mewn amgylchiadau tebyg.
Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ferched oedi a chymryd rheolaeth dros eu bywydau, gan dorri’r cylch dinistriol sy’n achosi trawma dwys iddyn nhw a’u plant, yn ogystal â lleihau costau enfawr i gymdeithas a’r trethdalwr.
Bydd yr Ymarferydd Adlewyrchu yn gyfrifol am roi mesurau ymyrraeth a chefnogi amrywiol ar waith felrhan o becyn integredig o gefnogaeth iechyd, therapiwtig a chymdeithasol. Cynlluniwyd ‘Adlewyrchu’ yn benodol i fynd i’r afael ag anghenion cymhleth merched, drwy gyfrwng cefnogaeth ddwys, i alluogi newid
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein