Blas o Ofal
Ymunwch â ni yn Ganolfan Gymunedol Butetown i brofi 'Blas o Ofal' ar 20 Mawrth 2026!
Dyddiad: 20/03/2026 (y diwrnod ar ôl i Ramadan ddod i ben)
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Bute, Butetown, Bae Caerdydd
Amser: 12:00 - 17:00
Mae Blas o Ofal yn anelu i ddathlu amrywiaeth gweithlu gofal Caerdydd a'r Fro trwy gyfryngau bwyd a dawns yng nghanol un o gymunedau mwyaf amrywiol yng Nghaerdydd. Bydd y digwyddiad yn dangos perfformiadau gan ddawnswyr sydd wedi ei ysbrydoli o'r Dwyrain (gan gyfuno chwedlau a hanes Cymru), a drwmwyr arddull Affro-Caribïaidd. Bydd gweithdai a sgyrsiau addysgol hefyd fel rhan o'r perfformiadau hyn.
Bydd prydau bwyd Affricanaidd a Dwyrain ar gael i'r rhai sy'n mynychu, mewn fformat bwffe a ffyrdd platiau. Bydd partneriaid awdurdod lleol o bob rhan o'r rhanbarth yn cael eu gwahodd i ddangos eu gwaith a chyfleoedd cyflogaeth o fewn eu hadrannau, gyda'r gwaith y mae Gofalwn Cymru yn ei gyflawni yn sector gofal Cymru yn cael ei ddathlu drwy'r holl ddigwyddiad. Bydd stondin i ofalwyr presennol sydd â diddordeb mewn dod yn Llysgennad Gofalwn Cymru, ag i ddysgu mwy am y gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni i hyrwyddo a chefnogi gwaith gofal ledled Cymru.